Ni all dros 38% o aelwydydd Powys fforddio prynu cartref ac ni all bron 38% fforddio rhent gan landlord preifat.
(1)

 
Hyd yn oed yn y farchnad tai fwyaf fforddiadwy yng Ngheredigion – Llanbedr Pont Steffan – mae gan dri chwarter aelwydydd incwm is na’r hyn sydd ei angen i sicrhau morgais lefel mynediad.(2)

Dengys ymchwil y bydd diffyg yn y ddarpariaeth tai heb fod yn rhai marchnad o 345 annedd y flwyddyn ym Mhowys a Cheredigion gyda’i gilydd rhwng 2006 a 2026.(3)

 Gostyngodd cartrefi Cyngor a Chymdeithasau Tai fel cyfran o gyfanswm cartrefi’r Deyrnas Unedig gan 20% rhwng 1981 a 2008(4).1  Bu gostyngiad o 12% rhwng 1996 a 2008 yng Nghymru(5)

Mae bron 30% o denantiaid Cyngor a Chymdeithasau Tai yn y Deyrnas Unedig yn economaidd anweithgar.(6)

   


Mae’r Gymdeithas yn teimlo y dylai newid y ffordd y mae’n dyrannu tai i roi blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n fwy gwerthfawr i’r cymunedau lle mae ganddi dai, ac mae’n cynnig system sy’n gwobrwyo pobl leol, rhai mewn cyflogaeth a rhai sy’n cyfrannu at gymdeithas drwy waith gwirfoddol.


Medrir gweld/lawrlwytho y papur ymgynghori llawn yma.

 

Medrwch ymateb i’r ymgynghoriad drwy glicio yma.

Mae’n bwysig i’r Gymdeithas ei bod yn gosod ei chartrefi mewn ffordd deg, dryloyw ac effeithiol a’i bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n ymateb i farn pobl y Canolbarth.


 Gellir gweld yr adroddiad ymatebion i'r ymgynghoriad llawn yn cael ei gweld/lawrlwytho yma. 



Hoffai’r Gymdeithas gael eich barn ar y cynigion a nodir yn y ddogfen ymgynghori yma ac yn neilltuol i’r cwestiynau dilynol. Gofynnir i chi adael i ni gael eich sylwadau erbyn 25 Chwefror 2011 fan bellaf gan eu hanfon un ai mewn ysgrifen at:

Mr. Shane Perkins,
Prif Weithredydd,
Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru,
TÅ· Canol,
Ffordd Croesawdy,
Y Drenewydd
Powys, SY16 1AL.
 

Neu drwy e-bost at:
consultation@mid-walesha.co.uk

Neu ar-lein ar wefan y Cynulliad:
www.mid-walesha.co.uk

Neu drwy anfon neges testun gyda’r gair CYTUNO neu ANGHYTUNO at:
07797 885035

 

 

  1. Asesiad Marchnad Tai Leol Cyngor Sir Powys 2010
  2. Papurau Ymchwil Marchnad Tai Leol Ceredigion (Drafft) 2010
  3. Ymchwil Canolfan Tai a Chynllunio Caergrawnt 2010
  4. Tabl 801: Nodweddion aelwydydd, tueddiadau daliadaeth o 1918, Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, ar gael ar eu gwefan
  5. Tabl 1: Amcangyfrifon stoc anheddau, yn ôl daliadaeth, Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar gael ar ei gwefan.
  6. Tabl 803: Nodweddion aelwydydd, statws economaidd person cyfeirio aelwyd yn ôl daliadaeth, 2008, Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol ar gael ar eu gwefan.