Ymgeiswyr

Mae'n hawdd gwneud cais am dy gyda Thai Canolbarth Cymru! Medrwch wneud cais ar-lein, lawrlwytho copi o'r ffurflen i'w llenwi pan fydd yn gyfleus i chi, neu ofyn i ni anfon ffurflen trwy'r post. Dewiswch un o'r tri opsiwn ar waelod y dudalen. Fel arall, medrwch alw heibio un o'n swyddfeydd yn Y Drenewydd neu Landrindod.

Mae rhestr aros am y rhan fwyaf o'n tai, a bydd angen i ni asesu'ch cais yn unol â'n Polisi Gosod, sy'n seiliedig ar angen. Weithiau, Mae'n bosib na fydd cais penodol yn derbyn yr un pwynt; h.y. gall hyn ddangos fod y ty presennol yn cwrdd â'r angen presennol.

Beth sy'n digwydd ar ôl i ni dderbyn eich Ffurflen Gais?

Ar ôl i'n Tîm Gwasanaethau Tai dderbyn ac asesu eich cais, byddwn yn cydnabod derbyn y cais, gan ddweud wrthoch faint o bwyntiau sydd wedi'u rhoi i'ch cais ac am beth. Byddwn hefyd yn anfon crynodeb o'r tai gwag fu gennym yn ystod y 12 mis blaenorol. Ychwanegir eich cais at y rhestr aros ar gyfer yr ardal a math o gartref yr ydych wedi'u dewis.

Gellir cael gafael ar gopi o'n Polisi Gosod o'r dudalen Lawrlwytho, neu trwy gysylltu â ni mewn un o'n swyddfeydd.

Enwebiadau'r Cyngor

Am y rhan fwyaf o'r tai sydd gennym, mae cytundeb enwebu gyda'r Awdurdod Lleol perthnasol (Powys neu Geredigion). O dan y trefniadau enwebu, mae canran o'r tai yn cael eu cynnig i bobl ar eu rhestrau aros. Mae'r canran union sy'n cael ei gynnig i'r Cynghorau yn amrywio, ond fel arfer mae'n 50%. Oherwydd hyn, rydym yn eich argymell i wneud cais am gartref i'ch Awdurdod Lleol (Cyngor Sir Powys / Cyngor Sir Ceredigion) yn ogystal ag i ni.

Y Cam Nesaf

Pan ddaw un o'n tai yn wag, byddwn fel arfer yn cysylltu â'r ymgeisydd sydd â'r nifer uchaf o bwyntiau ar ein rhestr aros ni neu ar restr enwebiadau'r Cyngor. Fel arfer, byddwn yn ymweld â'r ymgeisydd sydd â'r nifer uchaf o bwyntiau (tybir mai dyma'r person gyda'r angen mwyaf) yn ei gartref i wirio'r manylion ar y ffurflen gais.

Tai  Chymorth

Mae gan y Gymdeithas nifer o dai lle mae cymorth ar gael. Gall y cymorth fod mewn ystod o rywun yn galw heibio bob dydd i gymorth 24 awr y diwrnod. Cyfeirir bob amser at dai lle mae'r cymorth hwn ar gael fel tai â chymorth. I wneud cais am dy â chymorth, dewiswch un o'r tri opsiwn ar waelod y dudalen neu medrwch alw heibio un o'n swyddfeydd, yn Y Drenewydd neu Landrindod. Wrth i chi geisio am gartef, gwnewch yn siwr eich bod yn dweud wrthym ba fath o gymorth sydd ei angen arnoch.

Os nad ydych yn sicr, cysylltwch â'r Adran Gwasanaethau Tai ar 0300 111 3030. Fel arall, cewch ofyn am wybodaeth ar-lein o'r dudalen Cysylltwch â Ni.

Y mae rhai tenantiaid sydd angen rhywfaint o gymorth i gynnal eu tenantiaeth, ond heb fod angen tai â chymorth. Wrth i chi geisio am gartref, gwnewch yn sicr eich bod yn dweud wrthym ba gymorth sydd ei angen arnoch.