Cynlluniau Cymunedol
Prentisiaethau Contractwyr
Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn awyddus i sicrhau fod cyfleoedd cyflogaeth lleol yn bodoli yn yr ardaloedd y mae’n gweithredu ynddynt. I wneud hyn yn bosibl, wrth ddewis y contractwyr y mae’n rhoi gwaith iddynt, mae’r Gymdeithas wedi sicrhau drwy gontract y bydd 80% o’r gweithlu yn lleol. Bydd hyn yn osgoi dod â gweithluoedd i’r ardaloedd lle mae gan y Gymdeithas gartrefi.
Yn ogystal â gosod targedau ar gyflogaeth leol, mae’r Gymdeithas wedi gosod targedau ar nifer y prentisiaid a gyflogir gan y cwmnïau adeiladuy mae’n gweithio gyda hwy. Byddant yn darparua hyfforddiant i bobl ifanc i’w helpu yn y dyfodol.
Mae’r Gymdeithas yn awyddus i ehangu, gwella a chadw sgiliau o fewn yr ardal leol ac mae’n gweithio’n agos gyda’i gontractwyr Undod i roi prentisiaethau yn y meysydd dilynol:
- Adeiladu
- Cynnal a Chadw Tai
- Plymio a Gwresogi
- Peintio ac Addurno
- Trydanol
Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu sgiliau yn un neu fwy o’r meysydd hon, anfonwch eich manylion a datganiadau diddordeb atom yn defnyddio’r dudalen Cysylltu â Ni os gwelwch yn dda.
Rhaglen Tasglu Cymunedol A4e
Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru hefyd yn gweithio gyda A4e (‘Action for Employment’) ar eu Rhaglen Tasglu Cymunedol. Mae’r cynllun newydd yma’n anelu i wella rhagolygon gwaith hirdymor y genhedlaeth iau a gwella sefydlogrwydd economaidd hirdymor cymunedau lleol.
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar gynnig cyfle i bobl ifanc rhwng 18-24 oed i gael profiad gwaith gwerthfawr o fudd i’r sefydliadau sy’n cymryd rhan a hefyd yr ymgeiswyr.
Mae A4e yn canfod ymgeiswyr sy’n benodol eisiau gweithio o fewn eu sector ac a fydd yn ychwanegu gwerth i’r busnes. Mae A4e hefyd yn gwneud yn siŵr y caiff y sefydliad a’r ymgeiswyr eu cefnogi’n barhaus, gan warantu fod popeth yn rhedeg yn llyfn.
Mae mwy o wybodaeth am Raglen Tasglu Cymunedol A4e ar gael ar eu gwefan.
Cliciwch yma i weld gwefan A4e.
Swyddi Gwag Lleol Eraill
Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru wrthi’n datblygu nifer o bartneriaethau fydd yn ei galluogi i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth leol.
Medrir gweld manylion y prosiectau hyn yn adran Swyddi Gwag Lleol Eraill ar y wefan yma.
Deall yr Ardal
Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru bob amser wedi hyrwyddo anghenion yr ardal ac mae’n benderfynol i ymgynghori’n eang gyda’r gymuned ar ei barn am sut y dylid mynd i’r afael â’r argyfwng mewn tai fforddiadwy yng Nghanolbarth Cymru. Mae’n awyddus i fynd â’r drafodaeth hon i gymunedau lleol ac mae ganddi ddiddordeb mewn mynychu cynifer o ddigwyddiadau cymunedol ag y gall. Byddem yn croesawu’n neilltuol ymholiadau gan drefnwyr sioeau pentref lle medrwn efallai roi peth nawdd.
Datblygu Datrysiadau Lleol
Mae gan Gymdeithas Tai Canolbarth Cymru hanes hir o arloesi, a bydd yn parhau i ddarparu datrysiadau lleol i broblemau lleol. Bydd yn ymgynghori’n eang ar ei syniadau a gwahodd sylwadau gan ei denantiaid a hefyd y gymuned yn ehangach. Medrwch roi sylwadau ar y cynigion hyn drwy’r wefan yma o bryd i’w gilydd.
Gosod Blaenoriaethau
Pan fyddwn yn ystyried beth ddylai ein blaenoriaethau busnes fod ar gyfer y dyfodol, mae angen ystyried llawer o ffactorau. Fodd bynnag, un o’r pwysicaf yw’r hyn y mae ein tenantiaid a’r gymuned yn ehangach yn credu sy’n faterion pwysig. Medrwch ddweud eich barn drwy chwarae ein gêm ryngweithiol Stryd Gwario lle medrwch ddweud wrthym sut y byddech yn gwario arian y Gymdeithas.






