Datblygu
Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn datbygu tai fforddiadwy ar draws Powys a Cheredigion. Gweithiwn yn agos gyda chymunedau lleol ac rydym yn awyddus i glywed am safleoedd lle mae cyfleoedd datblygu.
Gall hyn gynnwys safle y dymunwch ei werthu, safle y dymunwch ei datblygu lle medrem brynu rhai neu'r cyfan o'r tai sydd wedi'u cwblhau neu lle medrem brynu rhan o'r safle neu dai lle mae Cytundeb Adran 106 yn weithredol i ddatblygu tai fforddiadwy.
Byddwn hefyd yn ystyried safleoedd sydd wedi eu datblygu'n rhannol neu eu cwblhau. Lle'r ydym yn datblygu tai fforddiadwy, mae'n rhaid i ni gyrraedd safonau allweddol. Mae'r ddewislen ar ochr dde uchaf y dudalen hon yn cynnwys rhestr o'r isafswm gofynion ar gyfer ein tai fforddiadwy.
Anaml yr ydym yn ystyried prynu tai unigol sydd ar werth.
Cyfleoedd Newydd Cyffrous Gyda Tai Canolbarth Cymru
Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn ehangu ac rydym angen eich help! Ar ôl 36 mlynedd mewn bodolaeth, mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol i'w hunan - dyblu ein stoc dros y pum mlynedd nesaf!
Ar hyn o bryd rydym yn rheoli 1300 o gartrefi ac ers ein sefydlu, rydym wedi gwasanaethu anghenion tai fforddiadwy cymunedau gwledig ym Mhowys a Cheredigion.
Mae angen i ni ehangu er mwyn sicrhau fod gennym sylfaen ariannol gref i barhau i ddarparu tai fforddiadwy ar gyfer pobl a chymunedau lleol.
I gyflawni ein nod, mae angen i ni ganfod cyfleoedd datblygu sydd ychydig yn wahanol i'r safleoedd bach a ddatblygwn fel arfer. Mae disgrifiad islaw o'r math o gyfleoedd y byddai gennym ddiddordeb ynddynt a gwelwch ein bod wedi dileu rhai o'r cyfyngiadau sy'n weithredol fel arfer.
Byddem yn falch i glywed am unrhyw gyfleoedd datblygu y credwch sy'n ateb ein meini prawf.
Meini Prawf Cyfleoedd Datblygu
| Lleoliad | Cymru a Lloegr |
| Yn bennaf ym Mhowys a Cheredigion a Siroedd cyfagos | |
| Mewn canolfannau neilltuol o boblogaeth fel Croesoswallt, Amwythig, Telford, Wrecsam, Dinbych ac ati | |
| Maint |
Dim llai na 20 annedd, o ddewis yn llawer mwy |
| Safonau Adeiladu |
Gofynion Ansawdd Datblygu – perthnasol ar gyfer anheddau A106 yng Nghymru YN UNIG |
| Safon Ansawdd Tai Cymru – perthnasol ar gyfer pob annedd yng Nghymru | |
| Manyleb safonol Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru – perthnasol ar gyfer pob annedd | |
| Mantau Annedd |
Dylai'r cymysgedd o anghenion tai adlewyrchu'r angen am dai/marchnad yn yr ardal - mae'n rhaid i chi roi ymchwil marchnad/cyfiawnhad am y cymysgedd a awgrymwch |
| Byddwn yn ystyried unrhyw fathau tai yn cynnwys pobl hŷn, lesddaliad, gofal ychwanegol neu lety myfyrwyr | |
| Statws Safle |
Byddwn yn ystyried safleoedd heb ganiatâd cynllunio, datblygiadau heb ddechrau sydd â chaniatâd cynllunio, datblygiadau ar safle a safleoedd wedi'u rhan-orffen a'u cwblhau mewn rheolaeth |
| Amseriad |
Lle nad oes caniatâd cynllunio wedi ei roi, y fantais yw y gallwn ddylanwadu ar osodiad y safle a'r cymysgedd Yr anfantais yw fod ein hamserlenni yn fyr a bod angen i ni fod yn sicr y bydd datblygiadau ar y safle erbyn Ebrilli 2015 fan bellaf, dechrau 2015/16 |
| Daliadaethau |
Bwriadwn hyrwyddo ystod o ddaliadaethau ar bob datblygiad fel sy'n dilyn: Daliadaeth Niwtral - (rhent yn trosi'n hawl i ran-brynu ar ôl 12 mis) Rhent Fforddiadwy - os oes grant ar gael Rhent Canolradd - rhent fforddiadwy os nad oes grant ar gael Gwerthiant Fforddiadwy - llai na OMV Rhanberchenogaeth Lesddaliad Rhent Marchnad a Gwerthiant Marchnad |
| Ffurf Contract / Pryniad |
Byddai'n well gennym gytuno ar ddêl gyda chi a chymryd yr anheddau ar sail un contractwr ond byddwn yn ystyried trefniadau eraill |
| Cyllid / Grant |
Mae gan Gymdeithas Tai Canolbarth Cymru fynediad i gyfleuster benthyciad mawr i ariannu cyfleoedd datblygu newydd. Ni fyddwn yn ddibynnol ar fynediad i Grant Tai Cymdeithasol felly rydym mewn sefyllfa i ymrwymo i gontract YN AWR |
Er Bod Y Diwydiant Adeiladu Yn Profi Arafu, Rydym Ni'n Cyflymu!
Os hoffech chi fod yn rhan o gyfnod twf cyffrous Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru - dyma'r hyn sydd angen i chi ei wneud yn awr:
1. Os hoffech gysylltu â ni am fanylion safle neu ddatblygiad sy'n barod i ni ei ystyried, llenwch a chyflwynwch yr ymholiad datblygydd, sydd ar gael o'r ddewislen ar gornel dde uchaf y dudalen yma.
2. Gwneud yn siwr eich bod yn anfon yr holl atodiadau y gofynnwn amdanynt,ar gyfer pob cyfle.
3. Disgwyl i glywed gennym - disgwyliwn gael llawer o ymholiadau fel canlyniad i'r ohebiaeth yma. Byddwn yn ceisio cysylltu â chi mewn 2 wythnos i ddweud wrthych os oes gennym ddiddordeb ai peidio. Os oes, byddwn yn eich gwahodd i'r Gymdeithas i siarad yn fwy manwl am y cyfleoedd a sut y gallwn efallai weithio gyda'n gilydd.
Edrychwn Ymlaen At Glywed Gennych!







