Tenantiaid Presennol
Gall ein staff Gwasanaethau Cwsmeriaid a Rheolaeth Asedau gynnig cyngor ar wahanol agweddau o'ch tenantiaeth.
Gall ein haelodau staff gynnig cyngor drwy alw heibio'ch cartref, drwy i chi alw heibio un o'n swyddfeydd, drwy ffonio, drwy e-bost neu ar-lein yn defnyddio adran Cysylltwch â Ni ar y wefan.
Os byddwch yn galw heibio un o'n swyddfeydd, ni fyddwch fel arfer angen apwyntiad i weld aelod o staff. Fodd bynnag, os ydych angen gweld aelod neilltuol o staff, fe'ch cynghorir i wneud yn siwr y bydd yr aelod o staff ar gael pan fyddwch yn galw.
Safonau Gwasanaeth Cwsmeriaid
Mae’r Gymdeithas yn ymroddedig i ddarparu safon ragorol o wasanaeth i’w holl gwsmeriaid. Rydym felly wedi cyhoeddi set o safonau gwasanaeth cwsmeriaid sy’n helpu i ddiffinio’r hyn y dylai cwsmer ei ddisgwyl gan y Gymdeithas yn y meysydd dilynol:
- Cyfathrebu
- Gwasanaeth Cynnal a Chadw ac Amserau Ymateb
- Rhaglen Cynnal a Chadw Cynlluniedig
- Gwasanaeth i Gyfarpar Tŷ
- Ymgynghori a Gwybodaeth
- Rhent a Thaliadau Eraill
- Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Cwynion ac Iawndal
- Dyraniadau a Gosodiadau
Mae’r ddogfen lawn Safonau Gwasanaeth Cwsmeriaid ar gael i’w lawrlwytho mewn fformat Adobe PDF o adran Lawrlwytho y wefan yma:
Gwasanaethau Ar-lein
Mae llawer o’n Gwasanaethau Tenantiaid hefyd ar gael ar-lein. Mae’r ddewislen ar y dde ar dop y dudalen yma’n cynnwys rhestr o’r gwasanaethau sydd ar gael i chi. Gobeithiwn y bydd y gwasanaethau ar-lein hyn yn ddefnyddiol i chi a byddem yn croesawu unrhyw sylwadau sydd gennych.
Sut all Tenantiaid gymryd mwy o ran?
Rydym bob amser yn annog ein tenantiaid i gymryd rhan yng ngwaith y Gymdeithas, gan ein bod yn gwerthfawrogi eu barn a’u sylwadau. Beth am gymryd rhan a’n helpu i ddarparu gwasanaeth ardderchog, gwerth am arian.
I ganfod sut y medrwch chi gymryd rhan, mae mwy o wybodaeth yn yr adran “Cymryd Rhan” yn y ddewislen ar y dde ar dop y dudalen yma.






