Hanes
Sefydlwyd Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru ym 1975, ac mae ganddi dros 1300 o dai ledled Powys a Cheredigion yn ogystal ag ychydig o dai yn Swydd Amwythig.
O'i phencadlys yn Y Drenewydd, a'i swyddfa ardal yn Llandrindod, mae Tai Canolbarth Cymru'n darparu tai ar osod am gost fforddiadwy. Mae ei chleientiaid amrywiol yn cynnwys teuluoedd, pobl sengl o bob oed, yr henoed, a phobl sydd angen gofal a chymorth, naill ai'n achlysurol, neu ynteu'n llawn amser.
Rheolir y Gymdeithas gan Fwrdd Rheoli. Nid yw aelodau'r Bwrdd yn cael eu talu am eu gwasanaeth; maent yn rhoi eu hamser o'u gwirfodd. Mae'n Haelodau'n dod o amryw lefydd ar draws ein hardal, ac o gefndiroedd gwahanol, gan gynnwys adeiladu, cyllid, llywodraeth leol, cyrff gwirfoddol, ac wrth gwrs, tai.
Gall hyd at draean o’r lleoedd ar y Bwrdd gael eu llenwi gan Denantiaid. Mae’r Gymdeithas yn gwahodd ei thenantiaid i sefyll am etholiad i’r Bwrdd pryd bynnag y daw lle yn wag.






