Perfformiad

Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn edrych yn barhaus am ffyrdd a dulliau o wella ein gwasanaeth i gwsmeriaid. Cyflawnir hyn mewn nifer o ffyrdd:

  • Cawn ein harchwilio gan Swyddfa Archwilio Cymru (a benodir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru)
  • Cynhelir Archwiliad Mewnol o’n hamrediad llawn o wasanaethau (a gynhelir gan yr archwilydd annibynnol T.I.A.A.)
  • Mae gennym raglen barhaus o Adolygiadau Gwelliant Parhaus, lle edrychwn ar feysydd gwasanaeth penodol
  • Adolygwn ddata ystadegol a pherfformiad o gymharu â thargedau perfformiad ar sail fisol
  • Cymharwn ein perfformiad o gymharu â Chymdeithasau eraill drwy sefydliad meincnodi “Housemark”, corff allanol a gaiff ei gydnabod yn eang
  • Cysylltwn yn rheolaidd gyda phreswylwyr a cheisio eu cynnwys yn ein gwaith perfformiad a datblygu parhaus

Sefydlwyd y dudalen hon i’ch hysbysu a’ch diweddaru ar ein perfformiad a’r hyn a wnawn i wella ein hamrediad gwasanaethau i gwsmeriaid. Yn gyffredinol, caiff y sylwadau eu diweddaru yn chwarterol i grynhoi pa mor dda neu wael  y gwnaethom yn y cyfnod tri mis diwethaf.

Darperir data a thueddiadau perfformiad ar gyfer nifer o feysydd busnes allweddol ar ffurf tabl. Rhoddir adroddiadau cryno i amlygu ein cynnydd gyda’r Rhaglen Adolygiad Gwelliant Parhaus. Mae adroddiadau cryno yn amlygu ein cynnydd gyda phwyntiau gweithredu yn deillio o’n harolygiadau Archwilio Mewnol a Swyddfa Archwilio Cymru. O bryd i’w gilydd, byddwn yn hefyd yn dodi adroddiadau cryno o agweddau eraill o’n busnes lle gwnaethom yn neilltuol o dda neu’n wael. Byddwn hefyd yn darparu unrhyw gysylltiadau perthnasol i ffynonellau ychwanegol o wybodaeth am ein perfformiad.

Defnyddiwch adran Cysylltu â Ni o’r wefan hon os hoffech wneud unrhyw sylwadau neu awgrymiadau am ein perfformiad, unrhyw agwedd o’r gwasanaeth a dderbyniwch gan y Gymdeithas neu unrhyw beth a deimlwch a all fod o ddiddordeb i ni.

Mae’r Gymdeithas bob amser yn croesawu ac yn gwerthfawrogi eich sylwadau.

 

Data Perfformiad Allweddol

 

(Rhwng 1 Gorffennaf 2010 a 31 Rhagfyr 2010)

Cyfanswm Rhent Dyledus - £2,472,723 OK
Ôl-ddyledion Rhent Ar Ddiwedd Y Chwarter 2.00% 2.40%
Nifer O Anheddau A Osodwyd - 80 OK
Nifer Dyddiau I Osod Annedd Anghenion Cyffredinol 12 14
Nifer Dyddiau I Osod Annedd Tai  Chymorth 30 110
Nifer Y Cartrefi Newydd I Mewn Rheoli 7
7
OK
Atgyweiriadau Argyfwng Ar Amser 90% 92.00%
Atgyweiriadau Brys Ar Amser 85% 83.51%
Atgyweiriadau Heb Fod Yn Rhai Brys Ar Amser 85% 89.46%
Neges Canmoliaeth Am Ein Staff Neu Wasanaethau 36 58
Cwynion Am Ein Staff Neu Wasanaethau 36 31
Boddhad Gyda Gymdeithas Trin Of Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 95%
76%

 

Adborth yr Arolwg – Adolygiad O Gwynion Ac Lawndal

Cafodd yr adolygiad o Gwynion ac Iawndal ei gwblhau. Defnyddiodd y tîm ddull Systemau Darbodus at yr adolygiad gan olygu y cafodd ei gwblhau yn fwy effeithiol nag yn y gorffennol.

Fe wnaethom ymgynghori gydag aelodau 50 Canolbarth Cymru, y Fforwm Tenantiaid a Phreswylwyr, Tenantiaid oedd wedi gwneud cwyn ffurfiol yn y tair blynedd ddiwethaf, Aelodau Bwrdd a Staff. Fe wnaethom gymharu gyda darparwyr tai eraill. Gofynnwyd i Morrisons, Tesco ac Asda am gopïau o’u polisïau cwynion ond nid oedd modd iddynt eu rhoi. Fe wnaethom edrych ar bolisi cwynion ac iawndal Severn Trent; roedd y dogfennau hyn ar gael mewn lle amlwg ar eu gwefan yn dangos eu polisïau ar gyfer delio gyda chwynion ac unrhyw daliadau am iawndal.

Mae canlyniadau’r arolwg fel sy’n dilyn:

1) Adborth Staff ac Aelodau Bwrdd: ymatebodd 40%

Cynhaliwyd yr arolwg yn defnyddio system Interspire oedd hefyd yn dadansoddi’r canlyniadau, gan arbed cryn dipyn o amser.

• Credai’r rhan fwyaf o ymatebwyr y dylai cwyn gael ei thrin o fewn 7 diwrnod.

• Credai mwyafrif yr ymatebwyr mai ysgrifennu yw’r dull mwyaf addas o gyfathrebu. Dilynwyd hynny gan alwad ffôn, neges e-bost ac ymweliad personol. Y casgliad yw bod pob dull yn ddilys ar gyfer delio gyda chwynion.

• Dynodwyd mai rheolydd y gwasanaeth oedd y person mwyaf addas i ddelio gyda chwyn.

2) Fforwm Tenantiaid a Phreswylwyr: ymatebodd 36%

• Credai mwyafrif yr ymatebwyr y dylai chwyn gael ei datrys o fewn 7 diwrnod.

• Credai mwyafrif yr ymatebwyr mai ysgrifennu yw’r dull gorau o gyfathrebu. Dilynwyd hynny gan ymweliad personol, wedyn alwad ffôn gyda neges e-bost yr ymateb lleiaf poblogaidd.

• Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr eu bod yn credu y dylai achwynwyr gael gwybod beth sy’n digwydd, a’u trin yn deg, cyflym ac onest.

• Dywedodd y rhan fwyaf o ymatebwyr mai un pwynt cyswllt oedd y ffordd orau o drin cwyn; fodd bynnag, oherwydd na fyddai’n effeithiol o ran cost i wneud hyn oherwydd nifer isel y cwynion a dderbyniwyd (59 yn ystod 2010), bydd y Rheolydd Gwasanaeth yn delio gyda hyn.

• Roedd ymateb mawr i’r cwestiwn pryd y dylid talu iawndal; nid oedd thema gyffredin i’r ymatebion.

3) Achwynwyr Blaenorol: Ymatebodd 31%

• Roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn gwybod am y Polisi Cwynion ac Iawndal.

• Credai mwyafrif yr ymatebwyr nad oedd eu cwyn wedi cael ei thrin mewn modd amserol a boddhaol.

• Credai mwyafrif yr ymatebwyr y dylai cwyn gael ei thrin o fewn 7 diwrnod.

• Ystyrid mai rheolydd y gwasanaeth oedd y person mwyaf addas i ddelio gyda chwynion.

• Eto, roedd yr ymateb am ffyrdd o wella’r ffordd y caiff cwynion ei thrin yn gymysg: fodd bynnag, dywedodd nifer y dylent gael eu trin yn gyflymach ac y dylem gadw mewn cysylltiad.

Yn Gryno:

Wrth ysgrifennu’r polisïau a gweithdrefnau, fe wnaethom ystyried dogfen ganllawiau Ombwdsmon Cymru, y ffordd y mae sefydliadau eraill yn delio gyda chwynion ac iawndal a chanlyniadau adborth yr arolygon. Y prif benderfyniad yw bod angen i ni ddelio gyda’r gŵyn ddechreuol yn gyflymach a sicrhau y caiff yr achwynwyr wybod beth sy’n digwydd a’u diweddaru bob amser. Aethpwyd â’r polisïau a gweithdrefnau diwygiedig at y Fforwm Tenantiaid a Phreswylwyr ar 7 Hydref a chytunwyd y dylid anfon copïau o’r Polisïau Cwynion ac Iawndal newydd, unwaith y’u cymeradwywyd gan y Bwrdd Rheoli, gyda’r datganiadau rhent blynyddol at bob tenant yn Chwefror 2012. Bydd y dogfennau hefyd ar gael ar wefan y Gymdeithas.

Adborth Synergy - Canlyniadau Arolygon Ffôn Tenantiaid

Fe wnaethom gynnal arolwg ffôn yn ddiweddar o’r tenantiaid hynny na wnaeth gymryd rhan yn arolwg post 2009 a gynhaliwyd gan Status. Caiff canlyniadau’r arolwg eu dangos mewn siartiau ar y dudalen nesaf.

• Anfonwyd manylion 568 tenant at Synergy er mwyn cynnal yr arolwg

• Ni fedrid cysylltu â 130 o denantiaid o gwbl oherwydd manylion cyswllt anghywir

• Ymatebodd 239 (55) i’r arolwg

• Gwrthododd 53 (12%) gymryd rhan yn yr arolwg am wahanol resymau

• Ffoniwyd 146 (33%) ar chwe achlysur pellach ond ni fedrid eu cyrraedd.

 

Cwestiynau - canlyniadau yn Siart 1:

1. Ac ystyried popeth, pa mor fodlon ydych chi gyda gwasanaeth y Gymdeithas?

2. Yn gyffredinol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi gyda’ch cymdogaeth fel lle i fyw?

3. Yn gyffredinol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi gyda’ch rhent fel gwerth am arian?

4. Yn gyffredinol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi gyda’ch tâl gwasanaeth fel gwerth am arian?

5. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi gyda’r ffordd mae'r Gymdeithas yn delio gydag atgyweiriadau a chynnal a chadw?

6. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod y Gymdeithas yn gwrando ar eich barn ac yn gweithredu ar hynny?

7. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod y Gymdeithas yn rhoi cyfle i chi ddweud eich barn?

Siart 1

 

I ba raddau ydych chi’n cytuno gyda’r dilynol (gweler Siart 2)

a) Rwy’n falch o fy nghartref.

b) Rwy’n falch o’r gymdogaeth rwy’n byw ynddi.

Siart 2

 

Arolygod E-Bost

Mae gennym gyfleusterau gennym erbyn hyn i gynnal arolygon drwy e-bost. Os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw arolwg, gadewch i ni gael eich cyfeiriad e-bost os gwelwch yn dda drwy anfon eich cyfeiriad e-bost at: mwoosnam@mid-walesha.co.uk

Ffynonellau Eraill o Wybodaeth Perfformiad

Mae'r eitemau dilynol cysylltiedig â pherfformiad ar gael i'w lawrlwytho ar ffurf Adobe PDF o adran Lawrlwytho y wefan hon:

  • Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2010
  • Adroddiad Blynyddol 2009
  • Arolygiad Swyddfa Archwilio Cymru – Crynodeb O’r Adroddiad
  • Arolygiad Swyddfa Archwilio Cymru – Ymateb Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru