Cynnal a Chadw Cynlluniedig
Buddsoddiad
Mae ansawdd y cartrefi a ddarperir o’r pwys mwyaf i Gymdeithas Tai Canolbarth Cymru. Mewn blynyddoedd diweddar bu’r Gymdeithas yn buddsoddi dros £1,700,000 bob blwyddyn mewn atgyweiriadau a chynnal a chadw. Gwnaeth hyn welliannau sylweddol i ansawdd cartrefi tenantiaid. Bydd y Gymdeithas yn parhau i wario’r rhan fwyaf o’i chyllideb ar gartrefi tenantiaid a chadw’r sefyllfa hon yn y dyfodol. Dengys y siart dilynol fuddsoddiad y Gymdeithas mewn atgyweiriadau a chynnal a chadw dros y 5 mlynedd ddiwethaf:

Bodlonrwydd
Mae arolygon o denantiaid y Gymdeithas yn dangos eu bod yn hapus iawn gyda’r gwasanaeth a ddarperir. Fodd bynnag, mae’r Gymdeithas yn ymdrechu i wella’r gwasanaeth cynnal a chadw ac atgyweirio drwy wrando ar yr hyn mae tenantiaid ei eisiau. Mae’n rhaglen cynnal a chadw cynlluniedig yn targedu’r eitemau hynny y dywedodd tenantiaid wrthym eu bod eisiau eu gweld yn eu cartrefi megis cawod ym mhob cartre
Cynlluniau’r Dyfodol
Mae’r Gymdeithas yn dod â’i holl gartrefi i Safon Ansawdd Tai Cymru i sicrhau fod gan bob denant gartref o ansawdd da. Mae hefyd yn mynd tu hwnt i hyn drwy osod technolegau newydd, megis paneli ffotofoltaig aydd yn gostwng costau gwresogi a phŵer tenantiaid. Bydd y Gymdeithas yn gwario o leiaf £700,000 y flwyddyn yn y dyfodol i gyflenwi’r gwelliannau hyn i fywydau tenantiaid. O fis Ebrill 2011 caiff y cynlluniau buddsoddi hyn eu cyhoeddi a byddant ar gael i denantiaid.






