Chwilio

Swyddi Gwag

Mae Tai Canolbarth Cymru'n fenter bach a chanolig gyda'i phencadlys yn Y Drenewydd, Powys, ac mae'n cyflogi staff yn y meysydd hyn:

  • Prif Weithredydd (Cynorthwyydd Personol)
  • Gwasanaethau Corfforaethol (Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chefnogaeth, Cyllid, Gwybodaeth a Pherfformiad)
  • Gwasanaethau Gweithredol (Rheoli Asedau, Datblygu, Gwasanaethau Tai)

Mae Tai Canolbarth Cymru yn cynnig i staff:

  • Telerau ac amodau gwaith rhagorol, gan gynnwys oriau hyblyg
  • Cyflogau cystadleuol
  • Ystod rhagorol o fuddion gan gynnwys pensiwn a chynllun iechyd preifat
  • Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol

Croesawn geisiadau gan bawb, ac ni wahaniaethir ar sail hil, oed, rhyw, rhywioldeb, tarddiad ethnig neu anabledd.

Am fwy o wybodaeth ar gyfleoedd gwaith gyda Tai Canolbarth Cymru, cysylltwch â'r Cydlynydd Adnoddau Dynol ar 01686 620514.

Swyddi gwag ar hyn o bryd

I geisio am unrhyw un o'r swyddi isod, bydd raid i chi:

  1. Lawrlwytho manylion y swydd sydd o ddiddordeb i chi. Mae hyn yn cynnwys swydd-ddisgrifiad a manyleb person llawn ar gyfer y swydd.
  2. Darllen y datganiadau Cyfle Cyfartal a'r Broses Recriwtio.
  3. Cewch wedyn ddewis llenwi'r ffurflen gais ar-lein neu lawrlwytho'r ffurflen a'i gyrru atom trwy'r post. (Fel arall, ar dudalen Cysylltwch â ni , cewch ofyn am i ni anfon copi caled o'r Ffurflen Gais atoch trwy'r post).

Rhaid llenwi'r ffurflen yn llawn (ar ben hynny, cewch atodi C.V. i'r ffurflen, neu ei anfon trwy e-bost os ydych chi'n defnyddio'r ffurflen ar-lein), a'i chyflwyno i'r Gymdeithas erbyn y dyddiad cau a nodir.

Hysbysir pob ymgeisydd, mor fuan â phosib ar ôl y dyddiad cau, a ydynt wedi cyrraedd y rhestr fer, neu a ydynt wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn.

Dalier Sylw: Am rai swyddi, bydd angen holi'r Swyddfa Cofnodion Troseddol a chael ateb boddhaol amdanoch. Fodd bynnag, ni wneir hyn ond am yr ymgeisydd(ion) llwyddiannus.

Aelodau Bwrdd Gwirfoddol

Mae’r Gymdeithas yn edrych am unigolion ymroddedig a all ein helpu i ddatblygu ein busnes a gwella ein gwasanaethau i denantiaid. Nid oes tâl am y swydd, ond bydd y Gymdeithas yn talu am yr holl dreuliau rhesymol. Cliciwch yma i weld y manylion llawn»