Datblygu
Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn datblygu tai fforddiadwy ar draws Powys a Cheredigion. Gweithiwn yn agos gyda chymunedau lleol ac rydym yn awyddus i glywed am safleoedd lle mae cyfleoedd datblygu.
Gall hyn gynnwys safle y dymunwch ei werthu, safle y dymunwch ei ddatblygu lle medrem brynu rhai neu’r cyfan o’r anheddau a gwblhawyd neu lle medrem brynu rhan o’r safle neu anheddau lle mae Cytundeb Adran 106 yn ei le i ddatblygu tai fforddiadwy. Medrwn hefyd ystyried safleoedd sydd wedi eu datblygu’n rhannol neu lle cafodd anheddau eu cwblhau eisoes. Mae’n rhaid i’r anheddau yr ydym yn eu prynu neu’n eu datblygu gyrraedd safonau allweddol neilltuol - gweler yr adran safonau gofynnol islaw.
Nid ydym yn aml yn ystyried prynu anheddau unigol sydd ar werth.
Safonau Gofynnol Ar Gyfer Ein Tai
Ar gyfer i Gymdeithasau Tai gyrchu Grant Tai Cymdeithasol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae’n rhaid i’r anheddau hynny gyrraedd y gofynion a restrir islaw. Dylid cadw mewn cof er mai dyma’r fersiynau mwyaf cyfredol o’r gofynion hyn, bydd Llywodraeth y Cynulliad o bryd i’w gilydd yn eu haddasu a’u diwygio.
Byddwn yn gwneud yn siwr fod yr wybodaeth ddiweddaraf gennym ar gael yn yr adran yma:
|
|
|
Safonau Ansawdd Tai Cymru (WHQS) Gorffennaf 2008
Erbyn 2012 bydd yn rhaid i bob annedd Cymdeithas Tai gyrraedd y safonau hyn felly bydd angen i unrhyw anheddau yr ydym yn eu prynu gyrraedd y safonau hyn. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys manylion cyfarwyddyd diwygiedig WHQS (Gorffennaf 2008).
>> Lawrlwytho'r ffeil yma |
|
|
|
|
|
Gofynion Ansawdd Datblygu (DQR) Gorffennaf 2005
Gofynion ansawdd dylunio ar gyfer anheddau newydd ac anheddau presennol - y safon ofynnol a osodwyd gan y Cynulliad y mae’n rhaid i anheddau Cymdeithasau Tai eu cyrraedd. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys y gofynion ar gyfer anheddau newydd ac anheddau presennol.
>> Lawrlwytho'r ffeil yma |
|
|
|
|
|
Cartrefi Gydol Oes
Mae’r gofynion ansawdd dylunio yn dweud fod yn rhaid i anheddau Cymdeithasau Tai gyrraedd safon cartrefi gydol oes sy’n anelu i wneud anheddau’n addas i ddiwallu’r newid yn anghenion tenantiaid drwy eu bywydau. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan cartrefi gydol oes:
>> Edrych ar y Wefan yma |
|
|
|
|
|
Diogel Drwy Ddylunio
Mae’n rhaid i bob annedd Cymdeithas Tai fod yn ddiogel drwy ddylunio ac mae gwybodaeth ar y cynllun hwn ar wefan diogel drwy ddylunio:
>> Edrych ar y Wefan yma |
|
|
|
|
|
Y Cod Ar Gyfer Cartref Cynaliadwy
Yn 2008 cododd Llywodraeth y Cynulliad y safon ar gyfer Cymdeithasau Tai gan nodi fod yn rhaid i bob cartref gyrraedd o leiaf Lefel 3 y Cod Cartrefi Cynaliadwy. Mae’n debygol y caiff y safon ei godi i god lefel 4 neu 5 yn y dyfodol, felly gall fod angen i ddatblygiadau sydd ar y gweill ar gyfer y dyfodol ystyried sut i gyrraedd lefelau uwch y Cod. Mae mwy o wybodaeth am y Cod ar wefan cartrefi cynaliadwy:
>> Edrych ar y Wefan yma |
|
|
|
|
Grant Tai Cymdeithasol
|
Ddechrau mis Rhagfyr 2008, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai’n darparu Grant Tai Cymdeithasol ychwanegol i Gymdeithasau Tai i ysgogi’r economi adeiladu a chynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael.
Cafodd rhai o’r safonau gofynnol eu llacio er mwyn medru ymateb i’r farchnad bresennol. Rydym yn dal i fod eisiau clywed gennych os oes gennych anheddau sy’n GYFLAWN neu’n RHANNOL GYFLAWN ond nad ydynt yn cyrraedd y safonau uchod.
|
|
Ffurflen Ymholiadau Rhagarweiniol Datblygydd
Os hoffech gysylltu â ni, llenwch y ffurflen islaw os gwelwch yn dda:
|