Polisi Cyfrinachedd

Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyfyngedig (cyfeirir ati fel "ni" neu "ein" hefyd) wedi ymrwymo i ddiogelu cyfrinachedd pawb sy'n ymweld â'n gwefan, sef www.mid-walesha.co.uk . Darllenwch y polisi cyfrinachedd sy'n dilyn er mwyn deall sut yr ydym yn defnyddio a diogelu'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.

Wrth gofrestru ar gyfer y gwefan hwn, rydych yn cydsynio i ni gasglu, defnyddio, a throsglwyddo gwybodaeth amdanoch chi o dan delerau'r polisi hwn.

Gwybodaeth yr ydym yn ei chasglu gennych chi

Wrth i chi gysylltu â ni, efallai y byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth amdanoch chi, megis eich enw, manylion cyswllt ac ati.

Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth am eich defnydd o'n gwefan, yn ogystal â gwybodaeth amdanoch chi o negeseuon y byddwch yn eu hanfon trwy'r gwefan, neu lythyron y byddwch yn eu hanfon atom.

Efallai hefyd y byddwn yn cronni gwybodaeth ac ystadegau er mwyn monitro defnydd y gwefan er mwyn ein helpu i ddatblygu'r gwefan a'n gwasanaethau; ac efallai y byddwn yn rhoi'r fath wybodaeth wedi'i chronni i drydydd parti. Ni fydd yr ystadegau hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth a all arwain at adnabod unigolyn. I gynnal safonau'n gwasanaeth i'n cwsmeriaid, ac i helpu hyfforddi staff, efallai y byddwn yn recordio a monitro galwadau ffôn.

Datgelu gwybodaeth amdanoch chi

Mae'n bosib y bydd yr wybodaeth a rowch i ni ar gael i, neu yn cael ei rhoi i, drydydd parti (a all fod y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd) sy'n gweithio drosom ni at y pwrpasau a nodir yn y polisi hwn neu at bwrpas arall a gymeradwyir gennych.

Os byddwch wedi cydsynio wrth roi eich manylion i ni, mae'n bosib y byddwn yn caniatáu i gwmnïau eraill yn ein grwp gysylltu â chi yn achlysurol ynghylch gwasanaethau a all fod o ddiddordeb i chi. Mae'n bosib y byddant yn cysylltu â chi trwy e-bost. Os ydych yn newid eich meddwl yn y dyfodol ynghylch caniatáu i'r cwmnïoedd hyn gysylltu â chi, rhowch wybod i ni ar info@mid-walesha.co.uk

Yn olaf, os bydd ein busnes yn ymuno â cynllun ar y cyd gyda busnes arall, neu'n cael ei werthu i fusnes arall, neu'n cyfuno gyda busnes arall, gellir datgelu gwybodaeth amdanoch chi i'n partneriaid newydd neu berchnogion newydd y busnes.

Nid oes bob amser gan wledydd y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd gyfreithiau cryf i ddiogelu gwybodaeth. Fodd bynnag, byddwn ni bob amser yn gweithredu i sicrhau fod gwybodaeth amdanoch yn cael ei defnyddio yn unol â'r polisi hwn gan unrhyw drydydd parti.

Oni bai fod gofyn cyfreithiol, ni fyddwn yn rhannu, gwerthu neu ddosbarthu gwybodaeth amdanoch mewn unrhyw fodd arall heb eich cydsyniad.

Diogelwch a chadw gwybodaeth

'Rydym yn defnyddio gweithdrefnau diogelwch i ddiogelu gwybodaeth amdanoch chi rhag cael ei gweld gan neb heb awdurdod, rhag cael ei phrosesu'n anghyfreithlon, rhag cael ei cholli'n ddamweiniol, a rhag cael ei dinistrio neu ei niweidio. Byddwn yn cadw gwybodaeth amdanoch am gyfnod rhesymol, neu gyhyd ag y bydd angen dan y gyfraith.

Gweld a diweddau gwybodaeth

Mae gennych hawl i weld yr wybodaeth amdanoch yr ydym yn ei chadw, a chewch ofyn i ni ei newid er mwyn sicrhau ei bod yn gywir ac yn gyfredol. Os ydych am wneud hyn, cysylltwch â'n rheolwr gwybodaeth ar info@mid-walesha.co.uk. Mae gennym ni hawl o dan y gyfraith i godi tâl o £10 i gwrdd â'n costau wrth ddarparu manylion o'r wybodaeth amdanoch sydd gennym.

Newidiadau i'n polisi cyfrinachedd

Bydd unrhyw newidiadau i'n polisi cyfrinachedd yn ymddangos ar y gwefan, a, lle bo'n addas, yn cael eu cylchredeg trwy e-bost. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dylid nodi nad yw'n fwriad y bydd ein polisi cyfrinachedd yn creu unrhyw hawl cytundebol neu gyfreithiol arall.

Sut i gysylltu â'n rheolwr gwybodaeth
Croesewir unrhyw sylwadau, ymholiadau, a cheisiadau yn ymwneud â'n defnydd o wybodaeth amdanoch, a dylid eu cyfeirio at ein rheolwr gwybodaeth trwy e-bost ar info@mid-walesha.co.uk, neu fel arall eu hanfon trwy'r post at Bryn Aderyn, Y Banc, Y Drenewydd, Powys, SY16 2AB.

Dolenni i wefannau eraill

Mae'r gwefan hwn yn cynnwys dolenni i, a chyfeiriadau at, wefannau eraill. Dylech fod yn ymwybodol nad yw'n polisi cyfrinachedd yn gymwys ar gyfer y gwefannau hynny, ac 'rydym yn eich annog i ddarllen polisi cyfrinachedd pob gwefan byddwch yn ymweld ag ef.

   Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf., Bryn Aderyn, Y Banc, Y Drenewydd, Powys, SY16 2AB

   Rhif Cofrestru'r Cwmni - MS21416R  |  ffon: 01686 627476  |  ffacs: 01686 623195  |  e-bost: info@mid-walesha.co.uk
  © 2007 Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf. Cedwir pob hawl |  Map y wefan  | Telerau ac Amodau  |  Polisi Cyfrinachedd Gwefan gan Notcon