Telerau ac Amodau

Croeso i delerau ac amodau defnyddio gwefan Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyfyngedig (cyfeirir ati hefyd fel "ni" neu "ein"). Mae'r telerau ac amodau hyn yn ddilys ar gyfer defnyddio gwefan (y "Wefan"). Wrth ddefnyddio'r Wefan hon a/neu gyflwyno ymholiad, yr ydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau ac amodau hyn.

MAE DEFNYDDIO'R WEFAN HON YN GOLYGU EICH BOD YN DERBYN Y TELERAU HYN A YDYCH YN COFRESTRU GYDA NI A/NEU ANFON CV ATOM NEU BEIDIO. OS NAD YDYCH YN DERBYN Y TELERAU HYN, PEIDIWCH Â DEFNYDDIO'R WEFAN.

1. Ymwadiad

1.1 Er ein bod yn ymdrechu i sicrhau fod yr wybodaeth ar y Wefan yn gywir, nid ydym yn gwarantu cywirdeb neu gyflawnrwydd y deunydd ar y Wefan. Fe allwn newid y deunydd ar y Wefan, neu'r gwasanaethau, ar unrhyw adeg, heb rybudd. Mae'n bosib na fydd yr wybodaeth ar y Wefan yn gyfredol, ac nid ydym yn ymrwymo i ddiweddaru'r fath ddeunydd.

1.2 Darperir yr wybodaeth ar y Wefan "fel y mae" heb unrhyw amodau, gwarantau neu delerau eraill o unrhyw fath. Felly, yr ydym yn darparu'r Wefan hon i chi ar y sail ein bod yn ymwrthod hyd y bo'r gyfraith yn caniatáu â phob cynrychiolaeth a chymeradwyaeth, gwarant, ac amod eraill (gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r amodau ymhlyg dan ddeddf o ansawdd boddhaol, addasrwydd, a defnyddio gofal a sgil rhesymol) a fyddai'n ddilys ar gyfer y Wefan hon oni bai am y telerau ac amodau hyn.

2. Atebolrwydd

2.1 Yr ydym ni, unrhyw barti arall (p'un ai wedi ymwneud â chreu, cynhyrchu, cynnal neu gyflwyno'r Wefan hon ai peidio), ac unrhyw gwmni grwp arall, a'r swyddogion, cyfarwyddwyr, staff, cyfranddalwyr ac asiantau unrhyw un o'r cyrff hynny, yn ymwrthod â phob cyfrifoldeb ac atebolrwydd o unrhyw fath am unrhyw fath o golled neu ddifrod i chi neu i drydydd parti (gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw golled neu iawndal uniongyrchol neu anuniongyrchol, cosbol neu ôl-ddilynol, neu unrhyw golled incwm, elw, ewyllys da, data, contractau, defnydd arian, neu golled neu iawndal sy'n deillio o, neu'n gysylltiedig ag, ymyrraeth â busnes o unrhyw fath, ac a ydynt yn deillio o gamwedd (gan gynnwys, heb gyfyngiad, esgeulustod), o gontract, neu o fath arall) yn gysylltiedig â'r Wefan hon mewn unrhyw ffordd, neu'n gysylltiedig â defnyddio, diffyg gallu defnyddio, neu ganlyniadau defnyddio'r Wefan hon, unrhyw wefannau a gysylltir â'r Wefan hon, neu'r deunydd ar unrhyw wefan o'r fath, gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, colled neu ddifrod o ganlyniad i firysau a all heintio'ch offer cyfrifiadurol, eich meddalwedd, eich data, neu eiddo arall oherwydd eich mynediad i, eich defnydd o, neu bori'r Wefan hon neu lawrlwytho unrhyw ddeunydd o'r Wefan hon neu unrhyw wefannau a gysylltir â'r Wefan hon.

2.2 Ni fydd unrhyw beth yn y telerau ac amodau hyn yn eithrio neu gyfyngu ar ein hatebolrwydd am (i) marwolaeth neu anaf personol a achosir gan esgeulustod (fel y mae'r fath derm wedi'i ddiffinio gan y Ddeddf Amodau Contract Annheg 1977); (ii) twyll; (iii) camliwiad ynghylch mater sylfaenol; neu (iv) unrhyw atebolrwydd na ellir ei eithrio neu'i gyfyngu o dan y ddeddfwriaeth berthnasol.

2.3 Os bydd eich defnydd o'r Wefan hon yn arwain at angen gwasanaethu, trwsio neu gywiro offer, meddalwedd, neu ddata, byddwch chi'n gyfrifol am yr holl gostau am hynny.

2.4 Yr ydych yn cytuno i'n hindemnio'n llawn, ein hamddiffyn, a'n cadw ni a'n swyddogion, cyfarwyddwyr, staff ac asiantau rhag ac yn erbyn unrhyw a phob hawliad, iawndal, colled, neu gost (gan gynnwys ffioedd cyfreithiol rhesymol) sy'n deillio o unrhyw ddefnydd o'r Wefan hon, ac eithrio yn unol â'r telerau ac amodau hyn, gennych chi, neu gan unrhyw berson sy'n defnyddio'ch manylion cofrestru chi.

3. Cyfraith ac awdurdod llywodraethol

3.1 Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Lloegr a Chymru. Bydd unrhyw anghydfod a all ddeillio o'r telerau ac amodau hyn yn gyfan gwbl ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Lloegr a Chymru.

3,2 Nid ydym yn gwarantu fod deunydd / nwyddau sydd ar werth ar y Wefan yn addas neu ar gael i'w defnyddio y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Gwaherddir gweld neu ddefnyddio'r Wefan o diriogaethau lle mae ei gynnwys yn anghyfreithlon. Os ydych yn defnyddio'r Wefan hon o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig, yr ydych yn gwneud ar eich perygl eich hunain, ac yr ydych yn gyfrifol am gydymffurfio â deddfau lleol.

4. Hawlfraint a Monitro

4.1 Diogelir cynnwys y Wefan hon gan ddeddfau hawlfraint rhyngwladol a hawliau eiddo deallusol eraill. Ni, gyda'n cymdeithion a thrwyddedwyr trydydd parti eraill, sydd pbiau'r hawliau hyn. Mae pob enw neu logo, sy'n ymwneud â chynnyrch neu gwmni a grybwyllir yn y Wefan hon, yn nod masnach, nod gwasanaeth, neu enw masnachu eu perchnogion priodol, gan ein cynnwys ni. Ni chewch newid, copïo, dyblygu, ail-gyhoeddi, uwchlwytho, postio, anfon, neu ddosbarthu, mewn unrhyw fodd neu trwy unrhyw gyfrwng, unrhyw ddeunydd neu wybodaeth ar, neu wedi'i lawrlwytho o, y Wefan hon gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, destun, graffig, fideo, negeseuon, cod a/neu feddalwedd, heb ein cydsyniad mewn ysgrifen ymlaen llaw ac eithrio lle mae gwahoddiad penodol i wneud hynny, er enghraifft er mwyn llenwi unrhyw holiadur.

5. Dolenni

5.1 Nid ydym yn rhoi unrhyw gynrychiolaeth neu gymeradwyaeth bynnag am unrhyw wefan a fyddwch yn mynd ato trwy'r Wefan hon neu a fydd yn cysylltu â'n Gwefan. Pan fyddwch yn defnyddio gwefan arall, yr ydych yn deall ei bod yn annibynnol i ni ac nad oes gennym unrhyw reolaeth ar gynnwys neu argaeledd y Wefan honno. Yn ogystal, nid yw dolen i wefan arall yn golygu ein bod yn cymeradwyo neu dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys neu ddefnydd y fath wefan, ac ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sydd wedi'i achosi, neu yr honnir ei fod wedi'i achosi gan, neu mewn cysylltiad â, defnyddio neu ddibynnu ar unrhyw gynnwys, nwyddau neu wasanaethau fydd ar gael ar, neu trwy, unrhyw wefan neu adnodd arall. Dylid cyfeirio unrhyw bryderon ynghylch dolen allanol i weinyddydd neu reolwr y fath wefan.

6. Argaeledd ein Gwefan

6.1 Byddwn yn ymdrechu i sicrhau fod y Wefan ar gael, ond ni allwn warantu y bydd y Wefan yn weithredol yn barhaus na heb ymyrraeth, nag ei fod yn ddi-gamgymeriad, ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb os na fydd ar gael. Mae'n rhaid i chi beidio ag ymyrryd â gweithrediad cywir y Wefan, ac yn benodol, mae'n rhaid i chi beidio â cheisio trechu diogelwch, ymyrryd â, hacio i, neu amharu mewn unrhyw ffordd arall â, unrhyw system gyfrifiadurol, gweinydd, Gwefan, llwybrydd neu unrhyw offer arall a gysylltir â'r rhyngrwyd.

7. Newidiadau i'r Wefan

7.1 Yr ydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau neu gywiriadau, newid, atal dros dro, neu ddirwyn i ben unrhyw agwedd o'r Wefan neu'r cynnwys neu'r gwasanaethau sydd ar gael trwyddo, gan gynnwys eich mynediad iddo.

7.1 Er i ni geisio sicrhau fod cynnwys y Wefan yn gywir, dylech nodi y gall gynnwys camgymeriadau argraffyddol neu anghywirdebau eraill.

8. Cymhwysedd deunydd ar-lein

8.1 Oni nodir i'r gwrthwyneb, cyflwynir yr holl gynnwys a deunydd a gyhoeddir ar ein Gwefan ar gyfer eich defnydd preifat, personol, ac anfasnachol yn unig.

8.2 Rheolir a gweithredir ein Gwefan gennym ni o'n swyddfeydd yng Nghymru. Yn achos cynnwys y Wefan a ddarperir gan drydydd parti, yr ydych yn deall nad ydym yn rheoli na chymeradwyo'r fath gynnwys mewn unrhyw ffordd. Mae unrhyw gynnwys a gynigir gan drydydd parti nad yw'n gysylltiedig â ni mewn unrhyw ffordd yn cael ei gyhoeddi yn ddidwyll, ond nid ydym (hyd y bo'r gyfraith berthnasol yn caniatáu) yn derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb neu fel arall y fath gynnwys (boed wedi'i gyhoeddi ar-lein neu beidio) nag am ddefnydd y fath gynnwys. Yr ydych yn derbyn y cyfrifoldeb a'r risg llawn am eich defnydd o'r Wefan ac am eich defnydd o'r holl wybodaeth a gynhwysir arno.

9. Gwybodaeth a rowch i ni

9.1 O safbwynt unrhyw ddeunydd ("Cynnwys") a gyflwynir gennych, boed yn neges, e-bost, cynnwys bwrdd newyddion, syniad, awgrym, cysyniad neu ddeunydd arall:

(a) rhaid i chi fod yn berchen ar, neu fod â'r hawl i gyflwyno, unrhyw Gynnwys i'w gyhoeddi ar y Wefan, a rhaid i unrhyw Gynnwys a gyflwynir gennych fod yn gyfreithiol, onest, gweddus, a chywir, a rhaid iddo gydymffurfio â'r holl ddeddfau, rheoliadau, safonau, a chodau ymarfer perthnasol;

(b) rhaid i chi sicrhau nad yw unrhyw Gynnwys a gyflwynir i ni yn groes i hawlfraint, neu hawliau dylunio, preifatrwydd, cyhoeddusrwydd, diogelwch data, nod masnach neu hawliau eraill unrhyw drydydd parti, na bod yn aflan, sarhaus, bygythiol, enllibus, neu ddifenwol o unrhyw berson, na bod mewn unrhyw ffordd arall yn anghyfreithlon;

(c) rhaid i chi sicrhau nad yw'r Cynnwys yn hysbysebu neu mewn unrhyw ffordd arall yn ceisio am arian neu geisio gwerthu nwyddau neu wasanaethau; ac

(ch) mae gennym hawl i fonitro Cynnwys, a chawn olygu, gwrthod, neu ddileu Cynnwys os credwn nad yw'n cydymffurfio â'r pwyntiau uchod, ac, yn benodol, yr ydym yn cadw'r hawl i flocio e-byst sy'n dod i mewn, a Chynnwys, os credwn fod y cynnwys yn anaddas, neu y gall fod yn anaddas, neu ei fod mewn rhyw ffordd arall yn methu â chydymffurfio â'r pwyntiau uchod.

9.2 Yr ydych yn rhoi i ni drwydded anghyfyngedig, ddi-alw'n ôl, ddi-freindal, fyd-eang i gyhoeddi'r holl Gynnwys y byddwch yn ei gyflwyno i ni ac eithrio unrhyw ran o'r Cynnwys sy'n wybodaeth bersonol. Chi yn unig sy'n gyfrifol am y Cynnwys a gyflwynwch i ni, a byddwch yn ein hindemnio a'n cadw ni wedi'n hindemnio'n llawn ar gais rhag ac yn erbyn pob achos, hawl, colled, atebolrwydd, trafodion, iawndal, costau, treuliau, colled busnes, colled elw, ymyriad busnes, ac unrhyw golled ariannol neu ôl-ddilynol (gan gynnwys costau a threuliau cyfreithiol) a geir gennym ni sy'n deillio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o gyhoeddi Cynnwys a gyflwynir gennych i ni.

9.3 Yr ydych yn gwarantu ac yn ymrwymo na fyddwch yn defnyddio'r Wefan at unrhyw ddiben sy'n anghyfreithlon neu a waherddir gan y telerau ac amodau hyn, gan gynnwys, heb gyfyngiad, cyhoeddi neu drosglwyddo unrhyw ddeunydd enllibus, difenwol, ymfflamychol neu aflan. Os ydych chi'n gweithredu'n groes i'r telerau ac amodau hyn, mae'ch caniatâd i ddefnyddio'r Wefan hon yn dirwyn i ben yn syth heb fod angen rhoi unrhyw rybudd i chi.

10. Amrywiol

10.1 Ni chewch neilltuo, is-drwyddedu, neu drosglwyddo mewn unrhyw fodd arall unrhyw elfen o'ch hawliau dan y telerau ac amodau hyn.

10.2 Os canfyddir gan unrhyw lys dilys bod unrhyw ddarpariaeth o'r telerau ac amodau hyn yn annilys, ni fydd annilysrwydd y ddarpariaeth honno yn effeithio ar ddilysrwydd gweddill y darpariaethau a fydd yn parhau mewn grym gyda'u heffaith llawn.

10.3 Dim ond y partïon i'r telerau ac amodau hyn gaiff geisio eu gorfodi o dan y Ddeddf Cytundebau (Hawliau Trydydd Parti) 1999.

10.4 Cawn newid y telerau ac amodau hyn o bryd i'w gilydd, a chyhoeddi'r fersiwn newydd ar ein Gwefan, a bydd defnydd y Wefan yn cael ei reoli gan y fersiwn honno'n syth wedyn. Rhaid i chi wirio'r telerau ac amodau ar y Wefan yn rheolaidd.

10.5 Ni fydd methu neu oedi gan y naill barti neu'r llall wrth orfodi ymrwymiad neu weithredu hawl o dan y telerau ac amodau hyn yn golygu fod yr ymrwymiad neu'r hawl hwnnw wedi'i ildio.

11. Rhybuddion

11.1 Yn achos pob rhybudd sydd i'w roi i ni gennych chi:

(a) rhaid iddo gael ei anfon trwy e-bost at info@mid-walesha.co.uk a thrwy'r post at y Rheolydd Data, Bryn Aderyn, Y Banc, Y Drenewydd, Powys SY16 2AB; a

(b) thybir ei fod wedi'i dderbyn tridiau ar ôl dyddiad ei bostio.

11.2 Yn achos pob rhybudd sydd i'w roi i chi gennym ni:

(a) rhaid iddo gael ei anfon at y cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post a roddwch i ni; a

(b) tybir ei fod wedi'i dderbyn pan fydd yr e-bost llawn wedi'i dderbyn (neu ar y diwrnod busnes nesaf os caiff ei dderbyn ar ddiwrnod sydd yn benwythnos neu'n wyl gyhoeddus yn y lle y'i derbyniwyd) neu dridiau ar ôl dyddiad ei bostio.

12. Amnewidiad

12.1 Mae'r telerau ac amodau hyn yn disodli unrhyw delerau ac amodau eraill a oedd yn gymwys i ddefnydd y Wefan o'r blaen.

   Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf., Bryn Aderyn, Y Banc, Y Drenewydd, Powys, SY16 2AB

   Rhif Cofrestru'r Cwmni - MS21416R  |  ffon: 01686 627476  |  ffacs: 01686 623195  |  e-bost: info@mid-walesha.co.uk
  © 2007 Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf. Cedwir pob hawl |  Map y wefan  | Telerau ac Amodau  |  Polisi Cyfrinachedd Gwefan gan Notcon