Amdanom Ni

Amdanom Ni Sefydlwyd Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru ym 1975, ac mae ganddi dros 1200 o dai ledled Powys a Cheredigion yn ogystal ag ychydig o dai yn Swydd Amwythig.

O'i phencadlys yn Y Drenewydd, a'i swyddfa ardal yn Llandrindod, mae Tai Canolbarth Cymru'n darparu tai ar osod am gost fforddiadwy. Mae ei chleientiaid amrywiol yn cynnwys teuluoedd, pobl sengl o bob oed, yr henoed, a phobl sydd angen gofal a chymotth, naill ai'n achlysurol, neu ynteu'n llawn amser.

Rheolir y Gymdeithas gan Fwrdd Rheoli. Nid yw aelodau'r Bwrdd yn cael eu talu am eu gwasanaeth; maent yn rhoi eu hamser o'u gwirfodd. Mae'n Haelodau'n dod o amryw lefydd ar draws ein hardal, ac o gefndiroedd gwahanol, gan gynnwys adeiladu, cyllid, llywodraeth leol, cyrff gwirfoddol, ac wrth gwrs, tai.

Gall hyd at draean o'r Bwrdd fod yn Aelodau Tenant, ac yn 2008, bydd Aelodau Tenant yn cael eu hethol gan denantiaid y Gymdeithas am y tro cyntaf.

Strwythur Trefniadol

Ar hyn o bryd, mae gan y Gymdeithas bedair adran fel a ganlyn:

  • Prif Weithredydd (Cynorthwyydd Personol, Gweinyddiaeth, a Derbynfa)
  • Gwasanaethau Corfforaethol (Cyllid, Adnoddau Dynol, Gwybodaeth, a Pherfformiad)
  • Gwasanaethau Technegol (Datblygu, Rheoli Asedau, Garddio, Gwasanaethau Cymunedol)
  • Gwasanaethau Tai (Rheoli Tai, Glanhau)
Gellir lawrlwytho diagram sy'n dangos Strwythur Trefniadol y Gymdeithas yn fformat Adobe Acrobat isod:

Lawrlwytho Lawrlwytho Strwythur Trefniadol y Gymdeithas

Ein Gweledigaeth

Mae'r Gymdeithas yn ei gweld ei hun fel arf bwysig wrth geisio mynd i'r afael ag anghenion tai'r Canolbarth am y dyfodol rhagweladwy. Mae'r Gymdeithas yn bwriadu canolbwyntio'n bennaf ar ei swyddogaeth graidd o ddatblygu a chynnal tai fforddiadwy o safon uchel ar gyfer pobl mewn angen, a darparu gwasanaeth rheoli effeithlon, gofalgar o safon uchel.

Mae'n cydnabod pwysigrwydd tai yn y gymuned ehangach, ac yn teimlo ei bod yn bwysig ystyried sut y gall ddefnyddio ei chryfder economaidd i fynd i'r afael â rhai o'r anghenion ehangach. Un o brif ganolbwyntiau ei Strategaeth Datblygu Cymunedol fydd effaith ei datblygiadau presennol a newydd ar gymunedau, yn aml cymunedau bychain.

Ein Gwerthoedd

Er bod yr hyn y mae'n ei gyflawni'n bwysig iawn, mae'r Gymdeithas yn credu, gan ei bod yn "Fenter Gymdeithasol", fod y modd y mae'n cyflawni pethau'r un mor bwysig. Mae ei gwerthoedd corfforaethol yn rheoli sut mae'n cynllunio gwireddu ei hamcanion, ac yn bwysig iawn wrth i fudd-ddeiliaid strategol benderfynu a ydynt eisiau gweithio gyda'r Gymdeithas yn y dyfodol.

Gwerthodd Corfforaethol y Gymdeithas yw:

  • Onestrwydd ac Ymrwymiad - Byddwn yn onest ac yn agored am ein hamcanion, ac yn gadarn wrth eu gwireddu.
  • Canoli ar y Cwsmer - Bydd ymateb i anghenion a dyheadau'n cwsmeriaid yn flaenoriaeth uchel.
  • Ansawdd a Safonau Uchel - Byddwn yn anelu at ddarparu'r gwasanaeth gorau y gallwn. Ein nod fydd "rhagoriaeth".
  • Effeithlonrwydd - Anelwn at sicrhau'r defnydd gorau posib o adnoddau cyfyngedig, a cheisiwn gynyddu effaith ein gweithgaredd i'r eithaf
  • Mentrus ac Arloesol - Byddwn yn annog staff i fod yn broffesiynol, ac i feddwl dros eu hunain wrth ddatrys problemau'n cwsmeriaid; ac i ffocysu ar y canlyniad (nid y broses).

> > Materion Ariannol

Materion Ariannol
Gweld Crynodeb diweddaraf ein Cyfrifon...

 

>> Cynlluniau a Phrosiectau

Cynlluniau a Phrosiectau
Gweld manylion ein cynlluniau a phrosiectau diweddaraf...

 

>> Ein Llwyddiannau

Ein Llwyddiannau
Gweld manylion ein Llwyddiannau diweddaraf...

   Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf., Bryn Aderyn, Y Banc, Y Drenewydd, Powys, SY16 2AB

   Rhif Cofrestru'r Cwmni - MS21416R  |  ffon: 01686 627476  |  ffacs: 01686 623195  |  e-bost: info@mid-walesha.co.uk
  © 2007 Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf. Cedwir pob hawl |  Map y wefan  | Telerau ac Amodau  |  Polisi Cyfrinachedd Gwefan gan Notcon