Cynlluniau a Phrosiectau

'Rydym wedi ymrwymo i raglen barhaol o brosiectau datblygu fel y gallwn ddal i ymateb i anghenion tai Powys a Cheredigion. 'Rydym yn cyflawni hyn trwy weithio gyda'n partneriaid, yr awdurdodau lleol, ac yr ydym yn ymgymryd â phrosiectau adeiladu newydd trwy'n haelodaeth o gonsortiwm Undod. Ein bwriad yw dal i ddatblygu a thyfu yn y dyfodol, trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gweithredu a ffynonellau cyllid.

Ceir manylion o'n prosiectau cyfredol, a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol isod:

Prosiect Datblygu Ponterwyd

Image for Prosiect Datblygu Ponterwyd

Yn ystod Haf 2007, dechreuodd y gwaith o ddatblygu naw o dai/ byngalos ar y safle ym mhentref Ponterwyd, Ceredigion.  Mae’r datblygiad yn cael ei gyllido trwy gyfuniad o Grant Tai Cymdeithasol a chyllid preifat, a bwriedir ei gwblhau ym mis Mai 2008.

 

Ar y datblygiad hwn, mae’r Gymdeithas yn arbrofi gyda dull newydd o waith datblygu sy’n anelu at greu diwylliant o gynnwys tenantiaid a thrigolion mewn modd cadarnhaol a chynhwysol. Mae gan y prosiect ddwy brif ffrwd:

  • Trwy ganfod darpar denantiaid yn gynnar yn y broses, byddwn yn gallu eu cynnwys yn y penderfyniadau ar y safle ynghylch eu cartrefi newydd.
  • Trwy weithio gyda’r gymuned leol ehangach, ein nod yw deall effaith ein cynllun datblygu ar y pentref a’r cylch o safbwynt gwasanaethau a chyfleusterau lleol.
Prosiect Datblygu Llanwrin

Image for Prosiect Datblygu Llanwrin

Ym mhentref Llanwrin, ger Machynlleth, mae’r Gymdeithas wedi cychwyn adeiladu pedwar tŷ a dau fyngalo i ymateb i anghenion lleol ar gyfer tai fforddiadwy.  Dechreuodd y prosiect ar y safle yng Ngwanwyn 2007, a disgwylir ei orffen ym mis Tachwedd 2007.

Prosiect Datblygu Derwenlas

Image for Prosiect Datblygu Derwenlas

Eto’n agos at Fachynlleth, mae’r Gymdeithas wedi cychwyn adeiladu tri thŷ ym mhentref Derwenlas. Disgwylir cwblhau’r tai ym mis Tachwedd 2007, ac fe’u gosodir er mwyn ymateb i anghenion lleol ar gyfer tai fforddiadwy.

Daliadaeth Niwtral

Datblygir y tri datblygiad uchod (Ponterwyd, Llanwrin, a Derwenlas) a datblygiadau eraill Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn y dyfodol ar sail “Daliadaeth Niwtral”. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n adeiladu’r tai, a’u gosod ar sail angen, fel gyda phob un o’n datblygiadau, ond unwaith y bydd y tai wedi’u gosod, cynigir cyfle i’r tenantiaid brynu cyfran o’r eiddo, gan roi cyfle iddyn nhw gymryd eu cam cyntaf i’r farchnad tai.

Pencadlys Newydd Ar Gyfer Tai Canolbarth Cymru

Image for Pencadlys Newydd Ar Gyfer Tai Canolbarth Cymru

Tuag at ddiwedd 2008, bydd Tai Canolbarth Cymru yn symud i bencadlys newydd a adeiladwyd yn bwrpasol ar eu cyfer.

 

Dechreuwyd ar y gwaith o glirio’r safle yn Ffordd Croesawdy, sy’n edrych dros y brif ddynesfa i’r Drenewydd o’r gorllewin, ym mis Ionawr.

 

Symudodd y Gymdeithas i’w gyfeiriad presennol yng nghanol y Drenewydd yn 1999 ond mae ein twf parhaus ac ehangiad mewn maint a gwasanaethau yn golygu fod angen symud i swyddfeydd mwy hylaw i’r defnyddwyr.

 

Dywedodd Mr Shane Perkins, Prif Weithredydd Tai Canolbarth Cymru: “Mae’r Gymdeithas yn parhau i ehangu o ran nifer yr anheddau yr ydym yn eu rheoli yn ogystal â’r amrediad gwasanaethau a ddarparwn. Mae’n swyddfeydd presennol bellach yn fach ac anaddas ar gyfer ein hanghenion ni a rhai ein cwsmeriaid.

 

“Buom yn edrych ers peth amser am leoliad addas i ddatblygu prif swyddfa newydd a bydd y safle yn Ffordd Croesawdy yn rhoi lle i adeiladu swyddfeydd newydd i ni a hefyd i’r Gymdeithas adeiladu hyd at 30 o gartrefi newydd.

 

“Mae Bwrdd Rheoli’r Gymdeithas wedi astudio’r achos busnes dros y datblygiad ac yn fodlon fod y symudiad y penderfyniad cywir i’r Gymdeithas, ei staff a’i thenantiaid. Un o’n rheolau pan oeddem yn datblygu’r adeilad newydd oedd na ddylai fod unrhyw effaith negyddol ar gynlluniau i wella a chynnal tai presennol na datblygu cynlluniau newydd i ateb anghenion cymunedau ym mhob rhan o’r Canolbarth.”

 

Cynlluniwyd yr adeilad gan Hughes Architects o’r Drenewydd, y prif gontractwr yw W D Stant o Wrecsam, a rheolwr prosiect y datblygiad fydd Metrics Consultants o’r Amwythig.

Prosiect Datblygu Iard DSO, Machynlleth

Image for Prosiect Datblygu Iard DSO, Machynlleth

Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru wedi derbyn caniatâd cynllunio yn ddiweddar i adeiladu 8 x 1 fflat un llofft ar ran o Safle Iard DSO yn Heol Pentrerhedyn, Machynlleth.

Caiff y fflatiau eu gosod yn defnyddio Polisi Gosodiadau Tai Cymru yn seiliedig ar bolisi dyrannu Cyngor Sir Powys. (Mae ein polisi gosodiadau ar gael yn adran Lawrlwytho'r wefan).

Nid yw'r fflatiau hyn wedi eu dynodi ar gyfer unrhyw adran benodol o'r gymuned ond cânt eu gosod i bobl leol o unrhyw adran sy'n ateb ein meini prawf am gysylltiad lleol ag sydd ag angen ty.

Mae hyn yn golygu y bydd buddsoddiad Grant Tai Cymdeithasol sylweddol gan y Cynulliad Cymdeithasol oddeutu £403,402.

   Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf., Bryn Aderyn, Y Banc, Y Drenewydd, Powys, SY16 2AB

   Rhif Cofrestru'r Cwmni - MS21416R  |  ffon: 01686 627476  |  ffacs: 01686 623195  |  e-bost: info@mid-walesha.co.uk
  © 2007 Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf. Cedwir pob hawl |  Map y wefan  | Telerau ac Amodau  |  Polisi Cyfrinachedd Gwefan gan Notcon