|
|
|
|
Ein Llwyddiannau
Fel rhan o'n rhaglen barhaol i wella'n perfformiad, rydyn ni bob amser yn chwilio am ddulliau o wella'n gwasanaeth i'n cwsmeriaid. Wrth wneud hynny, rydym yn datblygu dulliau gweithredu gwahanol. Wrth i ni wneud y newidiadau hyn, rydym ni weithiau'n derbyn cydnabyddiaeth gan gyrff allanol am wneud gwaith da, ac yn derbyn sylw cyhoeddus am gyrraedd safonau uchel.
Rhestrir manylion ein llwyddiannau diweddaraf isod:
|
|
Strategaeth Prosiectau Cymunedol
Lluniodd y Gymdeithas Strategaeth Prosiectau Cymunedol cynhwysfawr a amlygodd yn fanwl y meini prawf ar gyfer prosiectau. Cyn penderfynu cychwyn prosiect, ‘roedd rhaid dangos y byddai’n effeithio ar o leiaf dau o’r canlynol – Targedau Cynllun Busnes y Gymdeithas, un o Strategaethau Cymunedol y Cyngor, neu Dargedau Cymunedau'n Gyntaf.
Yn olaf, ‘roedd rhaid i’r gwaith wella o leiaf un o’r canlynol:
-
gwasanaeth i gwsmeriaid
-
tyfiant
-
gwarged
-
arloesi
-
cyflwr y stoc
-
delwedd gyhoeddus
‘Roedd yr adolygiad yn canfod nifer o enghreifftiau lle’r oedd y Strategaeth Prosiectau Cymunedol wedi arwain at fuddion i’r Gymdeithas ac i gymunedau lleol, megis datblygu cae chwarae pob-tywydd a 10 tŷ yng Nghegidfa ger Y Trallwng. |
|
|
|
Adroddiad Metrics
Ym mis Tachwedd 2005, gweithredoedd y Gymdeithas system newydd o’r enw Metrics ar gyfer monitro perfformiad. Mae system Metrics yn darparu adroddiadau misol sy'n dadansoddi perfformiad y Gymdeithas wrth gymharu â dangosyddion craidd a osodir gan y Bwrdd ac uwch reolwyr i'w helpu rheoli busnes y Gymdeithas yn effeithiol. Gosododd sail ar gyfer datblygu rheolaeth perfformiad ymhellach.
‘Roedd adroddiad Metrics yn trafod tri maes eang – Budd-ddeiliaid, Prosesau Busnes, a Dysgu a Thyfu – a gweithiodd ar system goleuadau traffig oedd yn dynodi perfformiad yn goch, oren, neu wyrdd. Lle’r oedd y perfformiad yn is na’r targed (coch), bu i’r rheolwyr gweithredol gwrdd yn fisol i ganfod y rhesymau am y perfformiad gwael ac i gytuno sut i sicrhau gwella’r perfformiad yn y gwasanaeth. |
|
|
|
Cyflawni Yn Y Fan A’r Lle
Mae symud ar draws daliadaethau yn ffordd o annog cymunedau cytbwys. Islaw amlinellir dull y mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru (MWHA) yn ei ddefnyddio gyda’r nod o ymateb i’r newid mewn amgylchiadau teuluoedd heb orfod symud tŷ.
ASTUDIAETH ACHOS: CYFLAWNI DALIADAETH NIWTRAL YNG NGHEGIDFA, POWYS
Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru wedi datblygu’r cynllun cyntaf yng Nghymru lle caiff unedau eu datblygu a’u dyrannu ar sail angen, fel nad oes rhestr aros ar wahân. Unwaith y bydd y tenantiaid wedi symud i mewn, mae MWHA yn cynnig cyfle iddynt ymuno â’r cynllun “Cymorth Prynu”. Ni fydd hyn yn bosibl i lawer ar y pryd, ond gall amgylchiadau newid ac mae’r cynnig yn dal yno. Ar gyfer yr anheddau a werthir, os yw’r perchennog yn penderfynu gwerthu eu hannedd yna mae MWHA yn cadw’r hawl i ail-brynu’r annedd (er y gall ddewis peidio gwneud hynny). Mae hyn yn diogelu’r stoc fforddiadwy ar gyfer y dyfodol.
Teimlwn fod hwn yn gynllun da oherwydd nid dim ond un teulu (gyda’r uned gyntaf) y mae MWHA yn eu helpu, ond gall helpu gynorthwyo ail deulu. Os prynir yr annedd, yna mae’r Gronfa Grant Gyfalaf Eilgylch yn ei gwneud yn bosibl datblygu uned arall. Yr allwedd i hyn yw sicrhau fod y Gronfa ar gael pan fydd ei hangen - mae hyn yn broblem os caiff ei “adhawlio” ar ôl cyfnod o 2 flynedd.
Mae hyn yn golygu y gall cynllun o gartrefi cynnwys rhai ar rent a rhai wedi eu prynu. Os eir â’r cysyniad ymhellach, ni ddylai fod unrhyw reswm pam na fedrai tenant symud ymlaen i ddod yn berchennog, ac efallai’n ôl i fod yn denant, heb orfod symud tŷ ac i gyd-fynd â gwahanol gyfnodau eu bywyd. Medrai cynlluniau wedyn fod yn rhai daliadaeth gymysg a ni fyddai mor amlwg pa gartrefi oedd wedi eu gwerthu a pha rai sydd ar rent. |
|
|
|
|
|
|
Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf., Bryn Aderyn, Y Banc, Y Drenewydd, Powys, SY16 2AB
Rhif Cofrestru'r Cwmni - MS21416R | ffon: 01686 627476 | ffacs: 01686 623195 | e-bost: info@mid-walesha.co.uk
|
|
|
|
| © 2007 Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf. Cedwir pob hawl | Map y wefan | Telerau ac Amodau | Polisi Cyfrinachedd |
Gwefan gan Notcon |