Ble'r ydym ni
Dyma fap a chyfarwyddiadau i'n swyddfa yn Y Drenewydd.
Mae gennym faes parcio ar y safle.
Os ydych yn dod ar y trên, ewch allan o orsaf y Drenewydd gyda stôr Somerfield yn eich wynebu. Daliwch i’r chwith a cherdded yn syth i lawr y ffordd (heibio’r mast ffôn symudol) am 400 llath. Mae’r swyddfeydd ar ben y ffordd ar y chwith (Ffordd Croesawdy).
Os ewch ar goll, rhowch ring ar 0300 111 3030, a byddwn yn eich helpu.
Islwytho map strydoedd Y Drenewydd yn dangos lleoliad ein swyddfa
Defnyddio Mapiau Gwgl i ddod o hyd i ni
> > O'r Trallwng |
Cymerwch briffordd yr A483 i’r Drenewydd.
Pan fyddwch yn ar gyrion y Drenewydd, ewch yn syth drwy’r goleuadau traffig 1af (bydd stôr Tesco ar y chwith).
Ewch yn syth trwy’r 2il oleuadau traffig (McDonalds ar y dde).
Ewch yn syth trwy’r 3ydd goleuadau traffig a chymryd y lôn llaw chwith.
Ewch yn syth drwy’r 4ydd goleuadau traffig a chymryd y cyntaf i’r chwith (ar ôl pasio Travis Perkins) i Ffordd Croesawdy.
Dilynwch y ffordd i’r top a chadw i’r dde.
Ewch ymlaen am 200 llath pellach ac mae’r swyddfa yn y pen draw ar y chwith. |
|
|
> > O Landrindod
|
Cymerwch briffordd yr A483 i’r Drenewydd.
Pan fyddwch ar gyrion y Drenewydd, ewch o dan y bont rheilffordd a throi i’r dde wrth y goleuadau traffig.
Ar ôl tua 200 llath cymerwch y troad cyntaf i’r dde i Ffordd Croesawdy.
Dilynwch y ffordd i’r top a chadw i’r dde.
Ewch ymlaen am 200 llath pellach ac mae’r swyddfa yn y pen draw ar y chwith. |
|
|
> > O Lanidloes
|
Cymerwch briffordd yr A470 i’r Drenewydd.
Pan fyddwch ar gyrion y Drenewydd (stôr Lidl ar y dde), ewch yn syth drwy’r goleuadau traffig.
Ar ôl tua 200 llath cymerwch y troad cyntaf i’r dde i Ffordd Croesawdy.
Dilynwch y ffordd i’r top a chadw i’r dde.
Ewch ymlaen am 200 llath pellach ac mae’r swyddfa yn y pen draw ar y chwith. |
|
|