Cwestiynau Cyffredin

Rhestrir nifer o Gwestiynau Cyffredin isod. Os nad yw'r rhestr yn ateb eich cwestiwn, ewch i Cysylltwch â Ni am fwy o wybodaeth.

A gaf i hawlio budd-dal tai a budd-daliadau eraill?

Cewch.  Os ydych ar incwm isel, cewch hawlio help gyda’ch Rhent, costau Cymorth, a Threth y Cyngor yn yr un modd â thenant y Cyngor. Gallwn helpu tenantiaid i lenwi’r ffurflenni angenrheidiol, a’u cynghori ar ble a phryd i’w cyflwyno. Y mae’n Hadran Budd-daliadau Tai hefyd yn gallu darparu gwybodaeth gywir ar yr holl fudd-daliadau eraill, a gall wirio hawl tenantiaid er mwyn sicrhau hawlio’r holl fudd-daliadau sydd ar gael.
A gaf i hawlio budd-dal tai a budd-daliadau eraill?
Beth mae’r Adran Gwasanaethau Cymunedol yn ei wneud?

Gall staff yn yr adran hon helpu tenantiaid sy’n agored i niwed gael gafael ar gyllid i dalu am gefnogaeth yn ogystal â helpu tenantiaid sy’n dioddef anabledd neu’n mynd yn hen i aros yn eu cartrefi. Yr ydym yn dylunio, adeiladu a rheoli tai ar gyfer pobl sydd angen cymorth i gynnal eu tenantiaeth, lle mae tenantiaid yn derbyn cymorth gan rai o’r cyrff sy’n bartneriaid i ni. ‘Rydym hefyd yn helpu tenantiaid a’r sector gwirfoddol i ddatblygu gwasanaethau ac adnoddau eraill i’w cymunedau - o gyfleusterau chwaraeon i gynlluniau cyflogaeth. Gwasanaethau Cymunedol – llunio atebion a chwrdd ag anghenion cymunedol.
Beth mae’r Adran Gwasanaethau Cymunedol yn ei wneud?
Beth yw telerau cytundeb tenantiaeth?

Yn y rhan fwyaf o achosion, rydym yn cynnig yr hyn a elwir yn denantiaeth sicr. Er nad yw hyn yn rhoi’r un hawliau statudol â thenantiaeth ddiogel (mae gan denantiaid y Cyngor a rhai o’n tenantiaid ers talwm denantiaeth ddiogel), rydym wedi cynnwys yn ein Cytundeb Tenantiaeth y rhan fwyaf o’r hawliau sydd gan denant diogel. Mae’r Cytundeb Tenantiaeth yn amlygu cyfrifoldebau’r tenant a chyfrifoldebau Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru. Anfonir copi o’r Cytundeb atoch wrth i ni gynnig llety, gan roi digon o gyfle i chi ddarllen a deall telerau’r denantiaeth cyn i chi lofnodi’r Cytundeb Tenantiaeth.
Beth yw telerau cytundeb tenantiaeth?
Pa fathau o dai y mae’r Gymdeithas yn eu darparu?

Cyn belled ag y bo modd, yr ydym yn ceisio ymateb i anghenion o fewn pob ardal, ac felly adeiladu a rheoli ystod eang o dai, mewn ystod o fflatiau un ystafell wely i dai teuluol mawr. Rydym hefyd yn darparu nifer o dai, sydd fel arfer yn cael eu rheoli gan bartneriaid arbenigol, sy’n cynnig cartrefi i bobl gydag anghenion gofal a chymorth.
Pa fathau o dai y mae’r Gymdeithas yn eu darparu?
Pwy a beth yw contractwyr Undod?

Mae contractwyr Undod yn fusnesau bach a chanolig lleol sydd wedi gwneud cais i weithio gyda’r Gymdeithas trwy system cydweithio. Maent yn gweithio mewn partneriaeth â’r Gymdeithas, ac yn cael rhaglen waith pedair blynedd.

 

Contractwyr Undod yw: Datblygwyr Celtic, D.J. Buchan, E.O.M. (Contractwyr Trydanol), W.K. Lloyd, Gwasanaethau Plymio a Gwres M. Bufton, Owens & Owens, Ryan Evans Builders, Snowdonia (Ffenestri a Drysau) a W.D. Stant.         

Pwy a beth yw contractwyr Undod?
Pwy a beth yw Undod?

Ar hyn o bryd, mae Consortiwm Undod yn cynnwys pum Cymdeithas Tai sy’n darparu tai fforddiadwy trwy gydol Cymru. Amcanion Undod yw cydweithio er mwyn cynyddu effeithlonrwydd ac ennill manteision eraill; i ddarparu gwasanaethau o safon i gwsmeriaid a chymunedau; ac i hybu gwaith arloesol. Yn y dyfodol, bydd Undod yn ystyried croesawu cyrff eraill, sy’n rhannu ei amcanion, nodau, a gwerthoedd, i’r Consortiwm.

 

Aelodau cyfredol Undod yw: Cymdeithas Tai Clwyd, Cymdeithas Tai Eryri, Tai Canolbarth Cymru, Tai Gogledd Cymru a Chymdeithas Tai Dewis Cyntaf.             

Pwy a beth yw Undod?
Sut all y Gymdeithas fy nghynorthwyo?

Rydym yn darparu tai i lawer o elfennau gwahanol o’r gymuned – ond rydym bob amser yn ceisio helpu’r rhai sydd â’r angen mwyaf. Gall y rhain gynnwys pobl nad ydynt yn gymwys am dŷ cyngor, neu’r rhai sydd angen help a chefnogaeth ychwanegol.

Sut all y Gymdeithas fy nghynorthwyo?
Sut mae adrodd atgyweiriad sydd ei angen?

Yr ydych yn cysylltu’n uniongyrchol â’r Gymdeithas, a fydd yn nodi’r holl fanylion angenrheidiol ac wedyn gofyn i’r contractwr perthnasol gysylltu â chi i drefnu amser i wneud y gwaith. Rydym bob amser yn annog ein contractwyr i drefnu amser i wneud y gwaith, ond, yn achlysurol, os maent yn yr ardal yn gwneud gwaith arall, mae’n bosib y byddant yn galw heb rybudd i weld os yw’n gyfleus i wneud y gwaith y pryd hwnnw. Rhaid adrodd pob atgyweiriad i’r Gymdeithas; peidiwch â chysylltu â’r contractwyr yn uniongyrchol os gwelwch yn dda.

 

Cewch adrodd atgyweiriad dros y ffôn, trwy’r post, trwy alw heibio un o’n swyddfeydd, trwy e-bost, neu ar-lein.  Cliciwch y ddolen isod am fwy o fanylion.



view the website Adroddiad am Atgyweiriad sydd ei angen
Sut mae adrodd atgyweiriad sydd ei angen?
Sut mae cynnwys tenantiaid yng ngwaith y Gymdeithas?

Y mae nifer o ffyrdd o gynnwys tenantiaid yng ngwaith y Gymdeithas: a) trwy ymuno â’r Bwrdd Rheoli, cewch chwarae rhan weithgar yn rheolaeth busnes y Gymdeithas;  b) trwy fynychu cyfarfodydd lleol sy’n cael eu trefnu gan y Gymdeithas, cewch gwrdd â thenantiaid eraill, a rhannu profiadau; c) trwy ymuno â Phanel Tenantiaid, cewch ystyried polisïau sy’n effeithio ar eich tenantiaeth ac ar reolaeth eich stad, a chewch ddysgu mwy am sut mae’r Gymdeithas yn cael ei rhedeg.



view the website Anfonwch eich sylwadau/Adborth
Sut mae cynnwys tenantiaid yng ngwaith y Gymdeithas?
Sut mae gwneud cais am dŷ?

Os ydych am wneud cais am dŷ, cewch eich asesu yn unol â’n Polisi Gosod, sy’n cynnwys system pwyntiau sy’n ein galluogi i gynnig llety i'r rhai gyda'r anghenion mwyaf. Amgaeir copi o hyn ym mhob pecyn cais, ac mae hefyd ar gael ar gais.



view the website Gwneud Cais am Dŷ
Sut mae gwneud cais am dŷ?
Sut mae’r Gymdeithas yn cael ei chyllido?

Gallwn hawlio grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru tuag at bob datblygiad newydd, gan ychwanegu benthyciad preifat gan gymdeithas adeiladu neu fanc. Mae llawer o’n hincwm yn dod o renti, sy’n cael eu defnyddio gan fwyaf i gyllido ad-dalu’r benthyciadau a chynnal ein tai.



view the website Gweld Crynodeb Ein Cyfrifon
Sut mae’r Gymdeithas yn cael ei chyllido?
Sut mae’r Gymdeithas yn cael ei rheoli?

Rheolir y Gymdeithas gan Fwrdd Rheoli.  Nid yw aelodau’r Bwrdd yn cael eu talu am eu gwasanaeth; maent yn rhoi eu hamser o’u gwirfodd. Mae’n Haelodau’n dod o amryw leoedd ar draws ein hardal, ac o gefndiroedd gwahanol, gan gynnwys adeiladu, cyllid, llywodraeth leol, cyrff gwirfoddol, ac wrth gwrs, tai.
Sut mae’r Gymdeithas yn cael ei rheoli?
Sut mae’r Gymdeithas yn gosod rhenti?

‘Rydym yn gorff nid-am-elw, a rydym yn gosod ein rhenti ar y lefel isaf sy’n angenrheidiol i dalu’n costau gweithredu. Ceisiwn sicrhau fod ein rhenti yn cael eu gosod a’u cadw o fewn cyrraedd pobl mewn swyddi gyda chyflogau isel. Mae gan Denantiaid y Gymdeithas hawl i apelio i gorff annibynnol os nad ydynt yn hapus gyda lefel eu rhent pan gaiff ei adolygu.



view the website Gofyn am gopi o’r Polisi Gosod Rhenti
Sut mae’r Gymdeithas yn gosod rhenti?
Sut mae’r Gymdeithas yn gwneud gwaith cynnal a chadw?

Mae’n gyfrifoldeb cyfreithiol arnom i gynnal strwythur yr adeilad yn ogystal â gosod gwasanaethau megis dŵr a gwres. Yr ydym hefyd yn gwneud rhywfaint o waith cynnal a chadw mewnol, tra bod rhai o’r gwaith mewnol yn gyfrifoldeb y tenant.

 

Mae atgyweiriadau yn cael eu categoreiddio fel rhai Argyfwng, rhai Brys, a rhai Cyffredin. Mae gan y Gymdeithas amser targed ar gyfer pob categori. Byddwn yn eich hysbysu dan ba gategori y mae’ch atgyweiriad pan fyddwch yn gofyn i ni wneud y gwaith.     
Sut mae’r Gymdeithas yn gwneud gwaith cynnal a chadw?
   Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf., Bryn Aderyn, Y Banc, Y Drenewydd, Powys, SY16 2AB

   Rhif Cofrestru'r Cwmni - MS21416R  |  ffon: 01686 627476  |  ffacs: 01686 623195  |  e-bost: info@mid-walesha.co.uk
  © 2007 Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf. Cedwir pob hawl |  Map y wefan  | Telerau ac Amodau  |  Polisi Cyfrinachedd Gwefan gan Notcon