Cymryd Rhan

"Mae Cyfranogiad Tenantiaid yn broses dwy ffordd lle mae tenantiaid a’u landlordiaid yn rhannu syniadau, gan alluogi tenantiaid i ddylanwadu ar benderfyniadau yn ymwneud â rheolaeth eu cartrefi."
TPAS (Gwasanaeth Ymgynghori Cyfranogiad Tenantiaid)

Mae Tai Canolbarth Cymru yn ymroddedig i weithio gyda thenantiaid i sicrhau fod y gwasanaeth a ddarperir yr un gorau posibl ar gyfer ein tenantiaid. Medrwch chi, fel tenant y Gymdeithas, ddweud wrthym sut y medrwn wella’r gwasanaeth a gynigiwn a chroesawn eich ymgyfraniad. Gyda’ch help medrwn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion ein tenantiaid a’r gymuned ehangach.

Anelwn gyflawni hyn mewn tair ffordd wahanol. Yn gyntaf, byddwn yn rhoi cymaint o wybodaeth ag sydd modd i chi fel eich bod yn deall sut y gweithiwn. Yn ail, byddwn yn ymgynghori gyda chi yn rheolaidd ac yn rhoi adborth ar ganlyniadau unrhyw ymgynghoriad yn chwarterol. Yn drydydd, byddwn yn annog ein holl denantiaid i gymryd rhan weithgar.

Medrir cymryd rhan mewn gwahanol ffyrdd:

  • Ymuno â’r Bwrdd Rheoli
  • Dod yn gyfranddaliwr yn y Gymdeithas
  • Mynychu cyfarfodydd lleol
  • Ymuno â’r Panel Tenantiaid
  • Ffurfio Grwp Ffocws seiliedig ar stad
  • Ymuno â Grwp 50 Canolbarth Cymru
  • Cymryd rhan mewn arolygon byr am ein gwasanaethau
  • Cymryd rhan mewn Adolygiad Gwasanaeth Gwelliant Parhaus

Chi sydd i benderfynu faint y dymunwch gymryd rhan ym musnes y Gymdeithas. Parchwn hawliau ein tenantiaid a chroesawn eu barn. Heb eich help, p’un ai’n ganmoliaeth, sylw neu gwyn, ni fedrwn wybod os ydych yn fodlon gyda’r gwasanaeth a gewch gennym.

Felly beth am gymryd rhan a’n helpu i ddarparu gwasanaeth ardderchog, gwerth am arian.

I gael sgwrs anffurfiol am sut y medrwch gymryd rhan, cysylltwch â’ch Cydlynydd Tai neu anfon datganiad diddordeb atom yn defnyddio adran Sylwadau Cyffredinol y wefan hon.


Y Bwrdd Rheoli

Bwrdd Rheoli’r Gymdeithas yw corff llywodraethu'r Gymdeithas ac mae’n gyfrifol am gyfarwyddo busnes y Gymdeithas yn unol â’i Hamcanion a’i Rheolau ar ran y cyfranddalwyr, tenantiaid, cyflogeion a’r gymuned yn gyffredinol. Mae’r Bwrdd yn gyfrifol ac atebol am reolaeth y Gymdeithas.

Mae o leiaf 7 a dim mwy na 15 lle ar y Bwrdd, yn cynnwys 5 a neilltuwyd ar gyfer tenantiaid. Yn ogystal, medrir cyfethol hyd at bump o bobl i’r Bwrdd o bryd i’w gilydd ar gyfer diben neilltuol neu ddiben cyffredinol. Mae’r Gymdeithas yn anelu i lenwi pob un o’r 5 lle i denantiaid ar y bwrdd drwy etholiadau blynyddol a gynhelir drwy ein Cylchlythyr.




Fforwm Tenantiaid A Phreswylwyr

Sefydlwyd Fforwm Tenantiad a Phreswylwyr (Panel Tenantiaid) yn 2001 i ffurfio partneriaeth rhwng Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru a’i thenantiaid. Ar hyn o bryd mae 15 aelod ar y Panel sy’n gweithio’n agos gyda staff y Gymdeithas – mae croeso i bob tenant  ymuno â’r cyfarfodydd.

Cynhelir cyfarfodydd 6 gwaith y flwyddyn ac fel arfer fe'u cynhelir ym Tai Canolbarth Cymru (Tŷ Canol House) yn y Drenewydd ddydd Gwener cyntaf bob yn ail fis am 10:00am.

Y dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd 2010 yw:

16 Ebrill 2010

18 Mehefin 2010

6 Awst 2010

1 Hydref 2010

3 Rhagfyr 2010

Cysylltwch â Jane Jones os gwelwch yn dda i gael mwy o wybodaeth neu gadarnhau presenoldeb ar 01686 620508




Grŵp 50 Canolbarth Cymru

Sefydlwyd 50 Canolbarth Cymru er mwyn sicrhau fod gennym wasanaethau effeithiol ac effeithlon ym mhob rhan o’r Gymdeithas drwy wella ymgyfraniad tenantiaid ym mhob maes gwasanaeth.

Mae'r grŵp wedi ei ffurfio o denantiaid sy’n gwirfoddoli nad ydynt o reidrwydd eisiau bod yn rhan o gyfarfod neu grŵp ffocws, ond a all gymryd cyn lleied neu gymaint o ran ag y dymunant, drwy gymryd rhan yn y dull ac ar yr amser sydd fwyaf cyfleus iddynt.

Byddwn yn gofyn i’r grŵp gymryd rhan yn ymarferol yn y dulliau dilynol: 

  • Helpu i ffurfio strategaeth a pholisi drwy:

- Gweithgorau i ffurfio cynnwys a chynhyrchu dogfennau drafft

- Adborth ar ddogfennau drafft

 

  • Ffurfio dogfennau trefniadol allweddol e.e. Cynllun Busnes

 

  • Ffurfio’r rhaglen o Welliant Parhaus a chymryd rhan yn yr adolygiadau Gwelliant Parhaus drwy:

- Gweithio fel aelodau o’r timau adolygu

- Cynorthwyo gydag arolygon unigol

- Llenwi arolygon unigol

- Llenwi arolygon drwy ddulliau drws i ddrws, cyfweliadau ffôn ac ati fel sy’n addas ar gyfer yr adolygiad

 

  • Cymryd rhan mewn arolygon ad hoc o feysydd gwasanaeth eraill o fewn y Gymdeithas



Dod yn Gyfranddaliwr yn y Gymdeithas

Gall unrhyw un ddod yn gyfranddaliwr yng Nghymdeithas Tai Canoblarth Cymru drwy dalu £1.

Mae hyn yn rhoi hawl i'r cyfranddaliwr i fynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas a phleidleisio ar yr holl faterion busnes critigol a godir i'w cymeradwyo yn y cyfarfod, yn cynnwys cymeradwyo'r cyfrifon blynyddol.

Medrir cael mwy o wybodaeth drwy gysylltu â'r Gymdeithas ar 0300 111 3030.




Ffynonellau Eraill o Wybodaeth

Mae’r eitemau dilynol ar Ymgyfraniad Tenantiaid ar gael i’w lawrlwytho mewn ffurf Adobe PDF o adran Lawrlwytho'r wefan hon:

Cymryd Rhan – Dulliau Cyfranogiad Tenantiaid



   Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf, Tŷ Canol House, Ffordd Croesawdy, Y Drenewydd, Powys, SY16 1AL

   Rhif Cofrestru'r Cwmni - MS21416R  |  ffon: 0300 111 3030  |  ffacs: 0300 111 3031  |  sms: 07797 885035  |  e-bost: info@mid-walesha.co.uk
  © 2010 Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf. Cedwir pob hawl |  Map y wefan  | Telerau ac Amodau  |  Polisi Cyfrinachedd Gwefan gan Notcon