|
Datganiad Cyfle Cyfartal
Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn cydnabod fod rhai grwpiau ac unigolion yn dioddef o wahaniaethu yn eu herbyn yn y gymdeithas sydd ohoni, ac o ganlyniad, nad ydynt yn cael cyfle cyfartal. Gall y gwahaniaethu ddigwydd ar sail nifer o ffactorau, gan gynnwys rhyw, tueddiad rhywiol, statws priodasol, hil, crefydd neu gred, cenedligrwydd, anabledd, salwch ac oedran.
Mae'r Gymdeithas yn credu'n gryf na ddylid trin "cyfle cyfartal" fel pwnc ar wahân i weddill ei gweithgareddau, ond yn hytrach y dylai tegwch a chyfle cyfartal fod yn rhan annatod o'i pholisïau a'i gweithdrefnau, yn arbennig yn y meysydd canlynol:
- Mynediad i Dai
- Rheolaeth Tai
- Aelodaeth o'r Bwrdd
- Arferion cyflogaeth
Mae'n gyfrifoldeb ar bob Aelod o'r Bwrdd a phob aelod o staff i sicrhau fod y Gymdeithas yn ymgymryd â'i holl weithgaredd mewn modd teg nad yw'n gwahaniaethu.
Mae'r Polisi Cyfleoedd Cyfartal yn amlygu'r dulliau o sicrhau cyfle cyfartal yn y meysydd a restrir uchod.
Mae copi o'r Polisi llawn ar gael ar gais - cliciwch yma i ofyn am gopi.
Pobl ag Anabledd
Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn cydnabod fod rhai grwpiau ac unigolion sydd ag anabledd yn dioddef o wahaniaethu yn eu herbyn yn y gymdeithas sydd ohoni, ac o ganlyniad, nad ydynt yn cael cyfle cyfartal.
Mae'r Gymdeithas yn credu'n gryf na ddylid trin "cyfle cyfartal" fel pwnc ar wahân i weddill ei gweithgareddau, ond yn hytrach y dylai tegwch a chyfle cyfartal fod yn rhan annatod o'i pholisïau a'i gweithdrefnau.
Yr ydym wedi ymrwymo i gyflogi, hyfforddi, a datblygu pobl ag anabledd yn gyfartal â phobl heb anabledd, ac i wneud pob ymdrech i gadw unrhyw aelod o staff sy'n dioddef anabledd. Yr ydym wedi ymrwymo fel a ganlyn:
Fe fyddwn yn:
- cyfweld â phob ymgeisydd gydag anabledd sy'n cyflawni'r meini prawf isaf am swydd, a'i ystyried ar eu gallu.
- gofyn i bob aelod o staff sydd ag anabledd, o leiaf unwaith bob blwyddyn, beth allwn ei wneud i sicrhau eu bod yn gallu datblygu a defnyddio eu gallu yn eu gwaith.
- gwneud pob ymdrech, os bydd aelod o staff yn dioddef anabledd tra ei fod yn ein cyflogaeth, i sicrhau eu bod yn dal mewn cyflogaeth.
- gweithredu i sicrhau fod aelodau allweddol o staff yn datblygu'r ymwybyddiaeth o anabledd sydd eu hangen er mwyn gwireddu'n hymrwymiadau.
- adolygu'r ymrwymiadau hyn, a'r hyn a gyflawnwyd, bob blwyddyn, cynllunio i'w gwella, a hysbysu pob aelod o staff o'n cynnydd ac o'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Sut ydym yn recriwtio a dewis staff
Cydymffurfio â Gofynion Cyfreithiol a Statudol
- Wrth hysbysebu swyddi a recriwtio staff, mae'r Gymdeithas yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol.
- Mae'r Gymdeithas yn cydymffurfio â gofynion y Swyddfa Gartref i gyflogwyr wirio hawl staff posib i weithio yn y DU.
- Dan amodau penodol, caiff y Gymdeithas gyflogi perthynas agos aelod presennol o staff, ond fe'i gwaherddir rhag cynnig swydd i Aelod o'r Bwrdd, neu i berthynas agos Aelod o'r Bwrdd, neu i gyn-Aelod o'r Bwrdd.
Sut ydym yn Recriwtio Staff
- Dewisir Panel Cyfweld, sy'n cynnwys yr aelod priodol o'r Grwp Gweithredol, y Cydlynydd Adnoddau Dynol, a (lle bo'n addas) y Rheolwr. Yn achos penodi aelod o'r Grwp Gweithredol, mae Cadeirydd y Gymdeithas ac Aelodau eraill o'r Bwrdd yn cymryd rhan yn y broses hefyd.
- Fel arfer, hysbysebir y swydd yn ddwyieithog yn y wasg leol ac ar wefan y Gymdeithas. Am rai swyddi, gellir penderfynu hysbysebu'n fwy eang yn y wasg leol neu genedlaethol neu mewn cylchgronau arbenigol. Ni fydd yr hysbyseb yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw grwp neu elfen o'r gymdeithas, a bydd yr hysbyseb yn cyfeirio at hyn yn benodol.
- Anfonir pecyn at ymgeisyddion, fydd yn cynnwys ffurflen gais, swydd-ddisgrifiad, a manyleb person ar gyfer y swydd, ac asesir ceisiadau wrth gymharu â hyn. Hefyd, anfonir gwybodaeth gyffredinol am y Gymdeithas. Rhaid i geisiadau fod ar y ffurflen gais briodol er mwyn hwyluso eu cymharu wrth lunio rhestr fer, ac er mwyn sicrhau fod pob ymgeisydd yn darparu'r un wybodaeth sylfaenol. Gellir atodi curriculum vitae i'r ffurflen gais. Ni dderbynnir ceisiadau ar ôl y dyddiad cau a nodir yn yr hysbyseb. Gellir cyflwyno ceisiadau trwy ffacs neu e-bost, ond rhaid i gopi caled, wedi'i lofnodi, ddilyn yn y post. Bydd ceisiadau'n cael eu trin yn gyfrinachol.
Sut ydym yn Dewis yr Ymgeisydd Llwyddiannus
- Bydd y Panel Cyfweld yn tynnu rhestr fer o'r ymgeisyddion sydd i'w gwahodd i gyfweliad. Asesir pob cais wrth gymharu â meini prawf a gytunwyd o flaen llaw gan o leiaf dau aelod o'r Panel Cyfweld, wrth ystyried y swydd-ddisgrifiad a'r fanyleb person. Dewisir rhestr fer o (fel arfer) pump neu chwech o ymgeisyddion i'w cyfweld.
- Mae'r Gymdeithas wedi ymrwymo i gydymffurfio â gofynion y Symbol Anabledd, a bydd yn cyfweld pob ymgeisydd ag anabledd sy'n cyrraedd y meini prawf isaf ar gyfer y swydd.
- Hysbysir pob ymgeisydd sydd heb gyrraedd y rhestr fer.
- Gwahoddir yr ymgeisyddion ar y rhestr fer i gyfweliad, ac maent i gyd yn derbyn yr un wybodaeth am y Gymdeithas ac am y Panel Cyfweld. Os bydd yr ymgeisydd wedi rhoi eu caniatad, gofynnir am dystlythyrau cyn y cyfweliad.
- Mae'r Panel Cyfweld yn cyfweld pob ymgeisydd ar y diwrnod a bennwyd, ac yn penderfynu pa ymgeisydd sy'n llwyddiannus wrth ystyried eu cymwysterau, profiad, gallu ac addasrwydd am y swydd. Nid yw'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn i'r ymgeisyddion yn gwahaniaethu.
- Caiff pob ymgeisydd sy'n cael ei wahodd i gyfweliad ad-daliad o'i gostau teithio ar y raddfa a gymeradwyir gan Gyllid y Wlad.
- Cynigir y swydd i'r ymgeisydd llwyddiannus mor fuan â phosib ar ôl y cyfweliad. Bydd hyn yn amodol ar dderbyn tystlythyrau boddhaol, os nad oedd y rhain ar gael erbyn y cyfweliad, ac yn amodol hefyd ar Ddatgeliad boddhaol o'r Swyddfa Cofnodion Troseddol lle bo'n addas. Bydd y llythyr cynnig yn amlygu'r prif delerau ac amodau cyflogaeth, y cyflog cychwynnol, a'r dyddiad cychwyn. Gofynnir i'r ymgeisydd llwyddiannus dderbyn cynnig y Gymdeithas mewn ysgrifen.
- Os bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn byw mor bell o'r swyddfa fel na fyddai'n rhesymol nac yn ymarferol disgwyl iddo fe neu hi fod yn bresennol bob dydd heb galedi, bydd y Gymdeithas yn talu costau adleoli rhesymol. Bydd angen tri dyfynbris gan gwmnïau symud dodrefn, a bydd y Gymdeithas yn ad-dalu cost y dyfynbris isaf.
- Ar ôl penodi'r ymgeisydd llwyddiannus, hysbysir pob ymgeisydd arall mor fuan â phosib ar ôl dyddiad y cyfweliad nad ydynt wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.
- Gofynnir i ymgeisyddion llwyddiannus yn unig ddangos eu trwyddedau teithio, neu ddogfennau derbyniol eraill, i alluogi i'r Gymdeithas wirio fod ganddynt hawl gyfreithiol i weithio yn y DU. Mae hyn er mwyn cydymffurfio â gofynion y Swyddfa Gartref.
Defnyddio Asiantaeth Gyflogaeth
Dan rai amgylchiadau, gellir llenwi swydd naill ai dros dro neu ynteu'n barhaol o ddewis ymgeisyddion a gynigir gan Asiantaeth Gyflogaeth.
Dyrchafiadau Mewnol a Throsglwyddo Staff
Gellir llenwi swyddi, ac eithrio swyddi Grwp Gweithredol, yn y modd hwn. Os nad ydynt yn cael eu llenwi trwy ddyrchafu neu drosglwyddo staff presennol, byddan nhw fel arfer yn cael eu hysbysebu'n fewnol ac yn allanol yr un pryd. Bydd pob ymgeisydd mewnol sy'n cwrdd â'r meini prawf isaf yn cael ei gyfweld yn ogystal ag ymgeisyddion allanol ar y rhestr fer.
Gwiriad Swyddfa Cofnodion Troseddol
- Mae penodi i rai swyddi yn amodol ar Ddatgeliad boddhaol gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol. Mae'r categori hwn yn cynnwys:
- Swyddi sydd â llawer o gyswllt gyda phobl sy'n agored i niwed;
- Swyddi sydd â llawer o gyfrifoldeb am faterion ariannol;
- Swyddi'r Grwp Gweithredol.
- Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr.
- Lle mae swydd yn amodol ar wiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol, nodir hyn yn y pecyn cais.
- Bydd y pecynnau gwybodaeth sy'n cael eu hanfon at ymgeisyddion yn amlygu'r dogfennau sydd eu hangen i alluogi'r Gymdeithas i geisio am Ddatgeliad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol os na fydd yr ymgeisydd wedi cael gwiriad diweddar gan y Swyddfa honno.
- Ni fydd y Gymdeithas yn ceisio am wiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ond am yr ymgeisydd llwyddiannus. Bydd unrhyw gynnig swydd yn amodol ar wiriad boddhaol gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.
- Bydd gofyn am Ddatgeliad boddhaol gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol yr un mor ddilys yn achos ymgeisyddion trwy Asiantaeth Gyflogaeth, ac yn achos ymgeisyddion mewnol sy'n cael eu dyrchafu neu'u trosglwyddo i swydd yn y categori hwn.
Os ydych am dderbyn mwy o wybodaeth am y ffordd y mae'r Gymdeithas yn recriwtio a dewis staff, cysylltwch â:
Y Cydlynydd Adnoddau Dynol
Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru
Bryn Aderyn,
Y Banc,
Y DRENEWYDD,
Powys,
SY16 2AB
Ffôn: 01686 627476
E-bost:job@mid-walesha.co.uk |