Gweithio i ni

Mae Tai Canolbarth Cymru'n fenter bach a chanolig gyda'i phencadlys yn Y Drenewydd, Powys, ac mae'n cyflogi staff yn y meysydd hyn:

  • Gweinyddiaeth
  • Gwasanaethau Corfforaethol (Cyllid, Adnoddau Dynol, Gwybodaeth, a Pherfformiad)
  • Gwasanaethau Technegol (Datblygu, Rheoli Asedau, Garddio, Gwasanaethau Cymunedol)
  • Gwasanaethau Tai (Rheoli Tai, Glanhau)

Mae Tai Canolbarth Cymru yn cynnig i staff:

  • Telerau ac amodau gwaith rhagorol, gan gynnwys oriau hyblyg
  • Cyflogau cystadleuol
  • Ystod rhagorol o fuddion gan gynnwys pensiwn a chynllun iechyd preifat
  • Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol

Croesawn geisiadau gan bawb, ac ni wahaniaethir ar sail hil, oed, rhyw, rhywioldeb, tarddiad ethnig neu anabledd.

Am fwy o wybodaeth ar gyfleoedd gwaith gyda Thai Canolbarth Cymru, cysylltwch â'r Cydlynydd Adnoddau Dynol ar 01686 620514.

Swyddi gwag ar hyn o bryd

I geisio am unrhyw un o'r swyddi isod, bydd raid i chi:

  1. Lawrlwytho manylion y swydd sydd o ddiddordeb i chi. Mae hyn yn cynnwys swydd-ddisgrifiad a manyleb person llawn ar gyfer y swydd.
  2. Darllen y datganiadau Cyfle Cyfartal a'r Broses Recriwtio.
  3. Cewch wedyn ddewis llenwi'r ffurflen gais ar-lein neu lawrlwytho'r ffurflen a'i gyrru atom trwy'r post. (Fel arall, ar dudalen Cysylltwch â ni , cewch ofyn am i ni anfon copi caled o'r Ffurflen Gais atoch trwy'r post).

Rhaid llenwi'r ffurflen yn llawn (ar ben hynny, cewch atodi C.V. i'r ffurflen, neu ei anfon trwy e-bost os ydych chi'n defnyddio'r ffurflen ar-lein), a'i chyflwyno i'r Gymdeithas erbyn y dyddiad cau a nodir.

Hysbysir pob ymgeisydd, mor fuan â phosib ar ôl y dyddiad cau, a ydynt wedi cyrraedd y rhestr fer, neu a ydynt wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn.

Dalier Sylw: Am rai swyddi, bydd angen holi'r Swyddfa Cofnodion Troseddol a chael ateb boddhaol amdanoch. Fodd bynnag, ni wneir hyn ond am yr ymgeisydd(ion) llwyddiannus.

Prentisiaethau

Mae'r Gymdeithas yn awyddus i ehangu, gwella a chadw sgiliau o fewn yr ardal leol, ac yn cydweithio'n agos gyda'i gontractwyr, Undod, i ddarparu prentisiaethau yn y meysydd canlynol:

  • Adeiladu
  • Cynnal a Chadw Eiddo
  • Gwaith Plymio a Gwres
  • Peintio ac Addurno
  • Gwaith Trydanol

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu sgiliau mewn un o'r meysydd hyn, anfonwch eich manylion atom trwy ddefnyddio tudalen Cysylltwch â ni.

Swyddi gwag ar hyn o bryd


Ceisio am swydd

>> Ceisio Ar-lein

Ceisio Ar-lein
Llenwch ffurflen gais ar-lein...

 

>> Lawrlwytho'r Ffurflen

Lawrlwytho'r Ffurflen
Lawrlwytho copi o’r ffurflen gais i’w llenwi’n nes ymlaen...

 

>> Cyfleoedd Cyfartal

Cyfleoedd Cyfartal
Darllen y datganiadau Cyfle Cyfartal a’r Broses Recriwtio...

   Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf., Bryn Aderyn, Y Banc, Y Drenewydd, Powys, SY16 2AB

   Rhif Cofrestru'r Cwmni - MS21416R  |  ffon: 01686 627476  |  ffacs: 01686 623195  |  e-bost: info@mid-walesha.co.uk
  © 2007 Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf. Cedwir pob hawl |  Map y wefan  | Telerau ac Amodau  |  Polisi Cyfrinachedd Gwefan gan Notcon