Ffurflen Gais am Swydd

Llenwch y ffurflen gais mor drylwyr â phosib os gwelwch yn dda. Mae'n bwysig i chi roi cymaint o fanylion ag y gellwch, gan y bydd eich cais yn cael ei ystyried ar sail yr wybodaeth a roddwch i ni i gychwyn. Bydd unrhyw wybodaeth a roddwch i ni yn cael ei thrin yn gyfrinachol gan y Gymdeithas. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol fod y Gymdeithas wedi cofrestru dan y Ddeddf Diogelu Gwybodaeth 1984. Dan y gyfraith, rhaid i unrhyw wybodaeth a ddelir ar gyfrifiadur gael ei datgelu ar gais i gyrff sydd â rheswm da dros ofyn am yr wybodaeth - er enghraifft, Cyllid y Wlad neu'r Heddlu. Mae gennych chi hefyd hawl i wirio pa wybodaeth sydd gan y Gymdeithas am eich cais ar gyfrifiadur, ac i fynnu fod hyn yn cael ei newid os bydd yn anghywir. Os oes angen unrhyw gymorth wrth lenwi'r ffurflen gais, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â'r Gymdeithas.

Cyfrinachedd - Mae'r holl wybodaeth a rowch ar y ffurflen yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol.

Cais am swydd:

MANYLION AMDANOCH CHI   Gwybodaeth Bellach
Enw   Ydych chi'n berchen ar gar? ticiwch os ydych
Cyfeiriad Llinell 1   Os nad ydych, a oes gennych ddefnydd rheolaidd car? ticiwch os oes
Cyfeiriad Llinell 2   A oes gennych chi drwydded yrru lân? ticiwch os oes
Tref   A ydych mewn iechyd da? ticiwch os ydych
Sir  

Rhowch ddyddiadau a manylion unrhyw broblemau iechyd neu anabledd:

Cod Post

 
Ffôn Cartref  
Ffôn Symudol  
Cyfeiriad e-bost  

Os oes gennych anabledd, rhowch fanylion unrhyw anghenion arbennig sydd gennych wrth ddod am gyfweliad:
A ydych chi erioed wedi cael euogfarn yn eich erbyn oherwydd trosedd?
(datganiad yn unol â'r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974)
ticiwch os ydych
Addysg Uwchradd a Phellach
Rhowch y manylion hyn os gwelwch yn dda - Ysgol/ Coleg - Dyddiad Cychwyn a Gadael - Cymwysterau a Gafwyd
Cymwysterau Proffesiynol (gan gynnwys y dyddiadau y'u cafwyd)

Gyrfa - Rhowch fanylion swyddi blaenorol
Rhowch y manylion hyn - Dyddiad Cychwyn a Gadael - Swydd, gyda Manylion Byr - Enw a Chyfeiriad y Cyflogwr

Profiad Perthnasol

Yn y blwch isod, disgrifiwch eich swydd bresennol (neu unrhyw swydd flaenorol mewn maes perthnasol), ynghyd ag enghreifftiau o'r hyn a gyflawnwyd, ac unrhyw brofiad sy'n berthnasol i'r swydd yr ydych yn ceisio amdani:

Gwybodaeth Ychwanegol

Rhowch eich rhesymau dros geisio am y swydd hon ac unrhyw wybodaeth arall yr ydych am ei dwyn i sylw'r Gymdeithas i gefnogi'ch cais:

Dogfennau Ychwanegol

Os dymunwch amgau copi o'ch C.V. diweddaraf neu unrhyw dystysgrifau perthnasol (ar gyfer cymwysterau proffesiynol) i gefnogi eich cais, medrwch wneud hynny drwy ddefnyddio'r cyfleuster Pori islaw. Dim ond un ddogfen o'r mathau dilynol y medrir ei hatodi: Microsoft Word (.doc neu rtf), Adobe Acrobat (.pdf) neu Ffeiliau Testun (.txt).

Dalier sylw: Rhaid llenwi pob rhan o'r ffurflen gais. Ni fedrir derbyn eich C.V. ar ben ei hun.

Canolwyr

Enw a chyfeiriad dau ganolwr. Byddai'n well gennym petasai'ch cyflogwr presennol yn un o'r rhain.

Dywedwch yn glir os gwelwch yn dda os nad ydych chi am i ni gysylltu â nhw cyn unrhyw gyfweliad.
Canolwr 1   Canolwr 2
Enw   Enw
Teitl ei Swydd (os yn berthnasol)   Teitl ei Swydd (os yn berthnasol)
Cyfeiriad Llinell 1   Cyfeiriad Llinell 1
Cyfeiriad Llinell 2   Cyfeiriad Llinell 2
Tref   Tref
Sir   Sir

Cod Post

 

Cod Post

Perthynas i chi (cyflogwr, cyfaill i'r teulu ac ati)   Perthynas i chi (cyflogwr, cyfaill i'r teulu ac ati)
Dywedwch os gwelwch yn dda os nad ydych chi am i ni gysylltu â nhw cyn unrhyw gyfweliad?   Dywedwch os gwelwch yn dda os nad ydych chi am i ni gysylltu â nhw cyn unrhyw gyfweliad?

Mae Paragraff 2 o Atodlen 1 i'r Ddeddf Tai 1996 yn gwahardd Cymdeithasau Tai rhag cyflogi perthnasau agos Aelodau Bwrdd, a dim ond dan amgylchiadau penodol mae'n caniatáu iddynt gyflogi perthnasau aelodau staff. Os, felly, yr ydych yn perthyn i Aelod Bwrdd neu aelod o staff y Gymdeithas (neu i rywun nad yw bellach yn Aelod Bwrdd neu aelod staff, ond sydd wedi bod yn ystod y 12 mis diwethaf), rhowch enw'r person a'ch perthynas â fe neu hi.

Er mwyn i'r Gymdeithas allu drin eich cais am swydd ar-lein, darllenwch y datganiad canlynol. Os nad ydych yn gallu ei gytuno, wedyn ni chewch gyflwyno'r cais, a dylech roi tic yn y blwch "Nac ydw" ar ddiwedd y cais hwn. Os, fodd bynnag, yr ydych yn gallu cytuno â'r datganiad yn ddiamod, dylech roi tic yn y blwch "Ydw", ac wedyn cewch gyflwyno'r cais i'r Gymdeithas. Er mwyn osgoi amheuaeth, os ydych wedi rhoi tic yn y blwch "Nac ydw", ni fydd eich cais yn cael ei dderbyn gan y Gymdeithas.

Yr wyf yn tystio fod y manylion uchod yn gywir, hyd eithaf fy ngwybodaeth a'm cred, ac yn deall y gall rhoi gwybodaeth anghywir arwain at wrthod neu ganslo fy nghais.

Ydw, rwy'n cytuno a rwyf am gyflwyno'r cais.

Nac ydw, nid wyf yn cytuno, a rwyf am ganslo'r cais.

 

   Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf., Bryn Aderyn, Y Banc, Y Drenewydd, Powys, SY16 2AB

   Rhif Cofrestru'r Cwmni - MS21416R  |  ffon: 01686 627476  |  ffacs: 01686 623195  |  e-bost: info@mid-walesha.co.uk
  © 2007 Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf. Cedwir pob hawl |  Map y wefan  | Telerau ac Amodau  |  Polisi Cyfrinachedd Gwefan gan Notcon