Newyddion > > Troi Hunllef O Denant Allan O’i Gartref (Gorffennaf 2010)
Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru wedi troi hunllef o denant a arferai fyw ar stad Trehafren yn y Drenewydd o’i gartref ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan alluogi gweddill y tenantiaid ar y stad i ddychwelyd i fyw bywyd heddychlon unwaith eto.
Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru, yr unig gymdeithas tai gyda phencadlys lleol yn y Drenewydd, yn gweithredu’n gadarn ar denantiaid sy’n profi’n hunllef i’w cymdogion. Mae’r Gymdeithas yn teimlo’n gryf iawn fod gan ei thenantiaid hawl i fwynhau eu cartrefi yn dawel ac yn feirniadol iawn o’r ychydig iawn o denantiaid anystyriol.
Roedd y Gymdeithas yn falch y cytunodd Llys Sirol y Trallwng i droi allan y tenant oedd yn achosi niwsans sŵn difrifol drwy gydol y dydd a’r nos yn ogystal â fandaleiddio ei gartref ei hun a chartrefi cyfagos a bod yn sarhaus a bygythiol i denantiaid ar y stad yn fuan ar ôl symud i mewn. Dros gyfnod byr y denantiaeth, o lai na blwyddyn, derbyniodd y Gymdeithas nifer fawr o gwynion gan denantiaid cyfagos am lefelau sŵn ac agwedd y tenant. Dywedodd Rheolydd Gwasanaethau Tai y Gymdeithas: "Gwnaed pob ymdrech i roi cyfle i’r tenant aros ar y stad yn cynnwys cynnig llety arall addas, ond er ein hymdrechion gorau a llawer iawn o gefnogaeth, parhaodd y tenant i fod yn niwsans i denantiaid cyfagos."
Yn ffodus, nid yw troi tenant allan o’u cartrefi yn rhywbeth sy’n wynebu Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn rheolaidd ac mae’r rhan fwyaf o denantiaid yn falch iawn o’u cartrefi. Dywedodd Shane Perkins, Prif Weithredydd Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru: "Mae mwyafrif y cartrefi y mae Tai Canolbarth Cymru yn eu darparu yn lle gwych i fyw ynddynt ac mae gan ein tenantiaid ymdeimlad gwych o gymdogaeth a balchder yn eu cartrefi, felly ni fyddwn yn goddef unrhyw denant sy’n bygwth ansawdd bywydau pobl eraill yn y ffordd yma."
Mae Tai Canolbarth Cymru yn gweithio’n galed i atal a datrys achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn cydnabod pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau statudol a gwirfoddol eraill, yn cynnwys yr Heddlu. Daw’r pwyslais gan y Gymdeithas i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bwysicach byth os cwtogi nifer yr heddlu yn y dyfodol.
|