Enillwyr Gwobrau:
Enillydd y wobr 1af oedd Mr Crane o Aberystwyth - £150
Enillwyr yr 2il wobr oedd Mr a Mrs Parker o Fachynlleth - £100
Mae enillydd y 3edd wobr yn dymuno parhau’n ddienw
Enillodd deg tenant arall wobrau o £10 yr un
Rhai o ganlyniadau Arolwg STATUS a sut mae’r Gymdeithas yn bwriadu gweithredu arnynt
Ffurfiwyd grŵp bach i weithio ar y ffordd orau ymlaen ar gyfer y Gymdeithas yn seiliedig ar ganlyniadau’r arolwg. Gwneir yr arsylwadau dilynol gyda sylwadau ar sut mae’ r Gymdeithas yn bwriadu delio gyda’r pwyntiau a nodwyd.
FFIGUR 3.5 (Y meysydd gwasanaeth pwysicaf i denantiaid - pan ofynnwyd iddynt ddewis y tri uchaf)
82% - Atgyweiriadau a chynnal a chadw
59% - Ansawdd cyffredinol eich cartref
33% - Cymdogaeth fel lle i fyw
33% - Gwerth am arian am eich rhent
30% - Delio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol
30% - Rhoi gwybod i denantiad beth sy'n digwydd
28% - Rhoi ystyriaeth i farn tenantiaid
Mae siart 3.5 yn dangos pa dri gwasanaeth y mae eu tenantiaid yn ystyried y pwysicaf iddynt.
FFIGUR 3.6 (Faint o angen gwella ar ein gwasanaethau allweddol)
AGORIAD = a) Angen Peth Gwella b) Angen LLawer O Wella c) Dim Angen Gwella
a) 53% b) 15% c) 32% - Ansawdd cyffredinol eich cartref
a) 44% b) 16% c) 39% - Atgyweiriadau a chynnal a chadw
a) 42% b) 14% c) 44% - Rhoi ystyriaeth i farn tenantiaid
a) 37% b) 8% c) 56% - Gwerth am arian am eich rhent
a) 36% b) 7% c) 58% - Rhoi rhan i denatiaid mewn rheolaeth tai
a) 25% b) 5% c) 70% - Rhoi gwybod i denantiad beth sy'n digwydd
1. Dengys yr wybodaeth yn siart 3.6 fod tenantiaid yn teimlo fod angen i’r Gymdeithas wella’r gwasanaeth ‘rhoi ystyriaeth i farn tenantiaid’.
Sylwadau’r Cyfarfod: Teimlai’r grŵp fod angen i’r Gymdeithas fynd ati i recriwtio tenantiaid i gymryd rhan mewn Gwaith Grŵp.
2. Credai 45% o denantiaid y medrid gwella gwerth am arian ar gyfer y rhent.
Sylwadau’r Cyfarfod: Caiff rhenti’r Gymdeithas eu gosod yn unol â rhenti meincnod Llywodraeth Cynulliad Cymru.
3. Rydym yn gwrando ar farn tenantiaid. Fodd bynnag, o ganlyniadau’r arolwg sylweddolwn fod angen i ni gael mwy o gyswllt gyda thenantiaid ac rydym yn edrych ar ffyrdd i wneud hyn.
4. Yng nghyswllt problemau lleol, mae’r Gymdeithas yn gweithio’n agos gyda’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol sy’n cynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Heddlu a sefydliadau cefnogaeth eraill.
5. Ni ddynodwyd problemau gydag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol mewn unrhyw ardal neilltuol o’i weithrediad.
Sylwadau’r Cyfarfod: Mae gan y Gymdeithas gynlluniau i gynnal adolygiad o Reolaeth Stad a bydd yn cynnwys Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn y cwmpas.
6. Dan bennawd Gofal Cwsmeriaid, roedd 87% o ymatebwyr yn fodlon gyda pha mor barod yw staff i gynorthwyo.
Sylwadau’r Cyfarfod: Mae’r tenantiaid yn gwybod fod y Gymdeithas wedi datblygu Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chefnogaeth yn ddiweddar er mwyn trin galwadau fel y pwynt cyswllt cyntaf heb orfod trosglwyddo’r sawl sy’n galw i aelodau eraill o’r staff.
7. Roeddem yn falch iawn i gael ymateb cadarnhaol iawn i wasanaethau ar-lein,
Sylwadau’r Cyfarfod: Yn seiliedig ar yr ymateb yma, byddwn yn datblygu a gwella’r gwasanaethau ymhellach, yn ychwanegol at y cyfleuster talu rhent ar-lein sydd eisoes ar waith.
8. Drwyddi draw yn cynnwys pob agwedd o’r gwaith atgyweirio roedd 81% o denantiaid yn fodlon gyda’r gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw. Yn nhermau boddhad cyffredinol gyda gwasanaeth Tai Canolbarth Cymru, yr elfen bwysicaf o ddigon i denantiaid yw’r Gwasanaeth Atgyweirio a Chynnal a Chadw gan olygu os cawn hyn yn iawn, y bydd lefelau boddhad yn cynyddu ar draws gwasanaethau eraill.
9. Casgliad yr Adroddiad: Pan gymherir yr ymateb gydag ymateb tenantiaid (anghenion cyffredinol a thai gwarchod) landlordiaid cymdeithasol tebyg, roedd tenantiaid Tai Canolbarth Cymru ar bob achlysur yr un mor fodlon â thenantiaid landlordiaid eraill. Roedd perfformiad Tai Canolbarth Cymru ym mhob maes yn uwch na chyfartaledd cronfa ddata’r Ffederasiwn ac yn uwch na chyfartaledd cronfa ddata'r Ffederasiwn ar gyfer landlordiaid Cymru ar gyfer cyswllt cwsmeriaid ac agweddau o’r gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw.
|