Tenantiaid Presennol >> Cyfrifoldebau

Allweddi

'Rydych yn gyfrifol am yr allweddi (agoriadau) i'ch cartref. Nid yw'r Gymdeithas yn cadw allweddi sbâr (ond mae gennym llweddi ar gyfer ardaloedd cymunol fflatiau i'w defnyddio mewn argyfwng). Os ydych yn colli'ch allweddi, neu'n eich cloi eich hunain allan, chi sy'n gyfrifol am gael mynediad eto. Fe allwn eich helpu i drefnu hyn, ond bydd yn rhaid i chi dalu.

Yswiriant

Yswiriant ar y cynnwys - mae hyn yn gwarchod pethau megis carpedi, llenni, nwyddau trydanol a dodrefn. Eich cyfrifoldeb chi yw trefnu yswiriant ar y cynnwys. Nid yw'n rhaid iddo fod yn ddrud. Pe digwyddai tân a chwithau heb yswiriant ar y cynnwys, byddech yn colli popeth. Os gwelwch yn dda, sicrhewch fod gennych yswiriant.

Yswiriant ar yr adeiladau - mae hyn yn gwarchod strwythur yr adeilad; y to, y gwaliau, y lloriau, a'r ffenestri. Mae'r Gymdeithas yn trefnu'r yswiriant hwn ac yn talu amdano.

Anifeiliaid anwes

Mae anifeiliaid anwes yn iawn cyhyd â nad ydynt yn peri trafferth i bobl. Os nad yw'ch anifail yn debyg o achosi problemau (e.e. pysgodyn aur, bochdew), nid oes angen i chi ofyn am ganiatâd i'w gadw. Os ydych am gadw ci neu gath, mae'n rhaid i chi ysgrifennu atom i geisio caniatâd. Os byddwn yn cytuno, bydd raid i chi gadw'ch anifail dan reolaeth - ni chaiff beri trafferth i bobl eraill. Os byddwn yn derbyn cwynion am eich anifail, fe allwn ofyn i chi ddod o hyd i gartref arall iddo.

Gwaith cynnal a chadw

Os oes angen trwsio rhywbeth yn eich cartref, rhowch wybod i ni mor fuan â phosib os gwelwch yn dda. Gellir gwneud hyn ar-lein hefyd, ar dudalen Adroddiad am Atgyweiriad.

Mae'n gyfrifoldeb arnoch chi i drwsio a chynnal rhai pethau:

  • Sinciau wedi'u torri
  • Ffenestri wedi'u torri
  • Glanhau ffenestri
  • Addurno a glanhau tu mewn i'ch cartref (rydym ni'n addurno'r tu allan)
  • Allweddi coll
  • Addasu drysau ar ôl i chi gael carped newydd
  • Goleuadau a ffiwsiau trydan
  • Wasieri tap a phlygiau sinc
  • Crampiau a ffasnyddion ffenestr
  • Leiniau dillad a biniau
  • Craciau yn y waliau neu'r nenfwd oherwydd crebachu
  • Cadw eich gardd yn daclus
  • Unrhyw eiddo personol sy'n cael ei dorri
  • Unrhyw beth yr ydych chi wedi'i ddifrodi

(Mae'r rhestr yn cael ei harolygu ar hyn o bryd).

Cerbydau a Pharcio

Defnyddiwch eich lle parcio eich hunain os gwelwch yn dda. Os nad yw'ch car yn addas i'r brifffordd, neu os mae wedi'i adael, ni ddylid ei barcio ar dir y Gymdeithas. Os caiff ei barcio felly, gellir ei symud neu gellir gweithredu yn eich erbyn o dan eich cytundeb tenantiaeth.

Os ydych am gadw carafán, trelar, lori, cwch neu gerbyd masnachol ar dir y Gymdeithas, rhaid i chi ysgrifennu a cheisio caniatâd gennym yn gyntaf.

Sbwriel a Chael Gwared Eitemau Mawr

Defnyddiwch ein bin sbwriel gan ei roi allan ar y diwrnod cywir. Bydd angen i chi ofyn i'r Cyngor fynd ag eitemau mawr (fe all y Cyngor godi tâl am hyn).

Cyffuriau

Yr ydym yn gweithio gyda'r heddlu i atal gwerthu cyffuriau yn ein tai. Cewch eich dadfeddiannu am hyn.

Cyfrifoldebau Eraill

Mae'n rhaid i chi ysgrifennu atom a cheisio caniatâd os ydych chi am:

  • Newid eich ty mewn unrhyw ffordd
  • Codi ffens neu sied
  • Codi dysgl lloeren (rhaid i chi hefyd ofyn i'r Awdurdod Lleol)
   Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf., Bryn Aderyn, Y Banc, Y Drenewydd, Powys, SY16 2AB

   Rhif Cofrestru'r Cwmni - MS21416R  |  ffon: 01686 627476  |  ffacs: 01686 623195  |  e-bost: info@mid-walesha.co.uk
  © 2007 Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf. Cedwir pob hawl |  Map y wefan  | Telerau ac Amodau  |  Polisi Cyfrinachedd Gwefan gan Notcon