Tenantiaid Presennol >> Talu Rhent
Ceisiwn sicrhau ei bod mor rwydd ag sy'n bosibl i denantiaid dalu eu rhent, a chynnig cymaint o wahanol opsiynau talu ag y gallwn. Mae rhestr o'r opsiynau talu isod. Os oes gennych unrhyw gwestiwn, neu os oes angen help gydag unrhyw un o'r opsiynau talu, cysylltwch â'r Cydlynydd Gwasanaethau Tai ar 0300 111 3030, neu fe gewch ofyn am wybodaeth ar-lein o dudalen Tenantiaid Presennol y wefan.
 |
>> Talu mewn siop PayPoint
Fel arfer, mae mannau PayPoint mewn siopau cyfleus neu orsafoedd tanwydd. Cewch dalu gydag arian, siec, neu gerdyn debyd.
Dalier Sylw: Bydd angen i chi fynd â'ch cerdyn "AllPay". |
|
|
 |
>> Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol
Cewch drefnu debyd uniongyrchol i dalu'ch rhent yn wythnosol neu'n fisol. Caiff eich taliad ei gasglu'n awtomatig wedyn. Cysylltwch â Gwasanaethau Tai i ofyn am ffurflen Debyd Uniongyrchol. |
|
|
|
|
 |
>> Talu mewn Swyddfa Bost
Cewch dalu mewn Swyddfa Bost gydag arian, siec neu gerdyn debyd.
Dalier Sylw: Bydd angen i chi fynd â'ch cerdyn "AllPay". |
|
|
 |
>> Talu trwy'r Post
Cewch anfon siec neu archeb bost i un o'n swyddfeydd trwy'r post.
Peidiwch ag anfon arian parod trwy'r post os gwelwch yn dda. |
|
|
|
|
 |
>> Talu yn ein Swyddfa
Cewch ymweld â'n pencadlys yn y Drenewydd, neu'n swyddfa ardal yn Llandrindod, a thalu gydag arian neu siec.
Fel arall, cewch ffonio'n swyddfa ar 0300 111 3030, a thalu gyda cherdyn debyd neu gerdyn credyd.
Dalier Sylw: Dylid gwneud sieciau'n daladwy i Gymdeithas Tai Canolbarth Cymru. |
|
|
 |
>> Talu Ar-lein
Cewch dalu ar-lein gyda cherdyn debyd neu gerdyn credyd trwy wefan AllPay:
CLICIWCH YMA I DALU AR-LEIN
Cewch hefyd ffonio AllPay ar 0870 243 6040 a thalu gyda cherdyn debyd neu gerdyn credyd.
Dalier Sylw: Bydd angen y rhif cyfeirnod 19 o ddigidau sydd ar eich cerdyn "AllPay". |
|
|