Tenantiaid Presennol

Gall ein staff Gwasanaethau Tai a Rheolaeth Asedau gynnig cyngor ar wahanol agweddau o'ch tenantiaeth.

Gall ein haelodau staff gynnig cyngor drwy alw heibio'ch cartref, drwy i chi alw heibio un o'n swyddfeydd, drwy ffonio, drwy e-bost neu ar-lein yn defnyddio adran Cysylltwch â Ni ar y wefan.

Os byddwch yn galw heibio un o'n swyddfeydd, ni fyddwch fel arfer angen apwyntiad i weld aelod o staff. Fodd bynnag, os ydych angen gweld aelod neilltuol o staff, fe'ch cynghorir i wneud yn siwr y bydd yr aelod o staff ar gael pan fyddwch yn galw.

Sut y byddwn yn trin eich Ymholiad

Byddwn yn ceisio ateb eich cwestiwn ar unwaith, ond os na fedrwn wneud hynny, byddwn yn canfod yr ateb ac ymateb cyn gynted ag sydd modd.
 

>> Gwasanaethau Tenantiaid

Cyfrifoldebau

Talu Rhent

Adrodd am Atgyweiriad

Gwneud Cwyn

Anfon Canmoliarth

Gofyn am Gyfarfod

Sylwadau Cyffredinol

Byddwn yn eich trin yn gwrtais ac yn ymdrin â'ch ymholiad mewn modd proffesiynol a chyfrinachol.

Tîm Gwasanaethau Tai

Mae ein Tîm Gwasanaethau Tai yn gyfrifol am reoli'r agweddau dilynol o'ch cartref/tenantiaeth:

  • Dyrannu tai (yn cynnwys trosglwyddiadau)
  • Atal ac adennill arian sy'n ddyledus gan denantiaid i'r Gymdeithas (e.e. ôl-ddyledion rhent)
  • Rheolaeth stad (e.e. baw cwn)
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol (e.e. swn parhaus/gwerthu cyffuriau)
  • Cyfranogiad tenantiaid
  • Gwelliannau stad

Defnyddiwch y ddewislen Gwasanaethau Tenantiaid ar dop y dudalen hon i gysylltu â'ch Cydlynydd Gwasanaethau Tai.

Tîm Rheolaeth Asedau

Mae ein Tîm Rheolaeth Asedau yn gyfrifol am reoli'r agweddau dilynol o'ch cartref/tenantiaeth:

  • Cynnal a chadw eich cartref o ddydd i ddydd
  • Cynnal a chadw wedi'i gynllunio (e.e. newid ceginau)
  • Gwelliannau stad

Defnyddiwch y ddewislen Gwasanaethau Tenantiaid ar dop y dudalen hon i gysylltu â'ch Cydlynydd Gwasanaethau Tai.

Ein Nod

Gobeithiwn roi annedd safon uchel i chi ac i gynnal a chadw eich cartref yn barhaol i chi. Fodd bynnag, chi sydd yn gyfrifol am rai mathau o atgyweiriadau. Crynhoir y rhain islaw:

  • Sinciau wedi'u torri
  • Ffenestri wedi'u torri
  • Glanhau ffenestri
  • Agoriadau/Allweddi coll
  • Addasu drysau ar ôl i chi gael carped newydd
  • Goleuadau a ffiwsiau trydan
  • Wasieri tap a phlygiau sinc
  • Crampiau a ffasnyddion ffenestr
  • Leiniau dillad a biniau
  • Craciau yn y waliau neu'r nenfwd oherwydd crebachu
  • Unrhyw eiddo personol sy'n cael ei dorri
  • Unrhyw beth yr ydych chi wedi'i ddifrodi

Gobeithiwn hefyd gynnal a chadw eich stad drwy sicrhau y cedwir yr ardaloedd cymunol (lle mae rhai) i safon resymol. Byddem yn annog ein tenantiaid i edrych ar ôl eu stad a rhoi gwybod i ni am unrhyw broblemau (e.e. fandaliaeth).

Mae ein Tîm Gwasanaethau Tai a'n Tîm Rheolaeth Asedau bob amser yn croesawu eich syniadau ar sut y medrem wella'r stad lle'r ydych yn byw. Efallai y teimlwch fod problem am oleuadau stryd neu daflu sbwriel yn anghyfreithlon er enghraifft. Gadewch i ni wybod a byddwn yn gweld beth fedrwn ei wneud!

Gwasanaethau Ar-lein

Mae llawer o'n Gwasanaethau Tenantiaid hefyd ar gael ar-lein. Mae'r ddewislen ar dde uchaf y dudalen hon yn cynnwys rhestr o'r gwasanaethau sydd ar gael i chi. Gobeithiwn y bydd y gwasanaethau ar-lein hyn yn ddefnyddiol i chi a byddem yn croesawu unrhyw sylwadau a all fod gennych.

Tai â Chymorth

Os ydych chi'n denant ac angen cymorth cyffredinol yn gysylltiedig â thenantiaeth (pethau fel cael trefn ar eich arian, tynnu ymlaen gyda'ch cymdogion neu roi adroddiad am atgyweiriadau sydd eu hangen), mae'r Gymdeithas yn gweithio gyda llawer o asiantaethau a all helpu. Cysylltwch gyda'ch Cydlynydd Tai a all ddweud mwy wrthych. Mae dolenni gwefannau ar gyfer rhai o'r asiantaethau hyn ar gael yn adran Dolenni Defnyddiol y wefan hon.

Mae gan y Gymdeithas dai ledled Powys a Cheredigion a elwir yn tai â chymorth lle mae tenantiaid yn cael lefelau uwch o gymorth. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â'r Adran Gwasanaethau Tai ar 01686 620529 os gwelwch yn dda neu medrwch wneud gwybodaeth ar-lein yn defnyddio adran Cysylltwch â Ni ar y wefan hon.

Sut Gall Tenantiaid Gymryd Mwy o Ran?

Rydym bob amser yn annog ein tenantiaid i gymryd rhan ym musnes y Gymdeithas. Mae tenantiaid yn medru cymryd rhan yng ngwaith y Gymdiethas mewn gwahanol ffyrdd megis:

  • Ymuno â'r Bwrdd Rheoli
  • Dod yn gyfranddaliwr yn y Gymdeithas
  • Mynychu cyfarfodydd lleol
  • Ymuno â'r Panel Tenantiaid
  • Ffurfio Grwp Ffocws ar stad
  • Cymryd rhan mewn arolygon byr am ein gwasanaethau
  • Cymryd rhan mewn Adolygiad Gwasanaeth Gwelliant Parhaus

Gallwch gymryd cymaint neu cyn lleied o ran ym musnes y Gymdeithas ag y dymunwch. Rydym yn parchu barn ein tenantiaid ac yn croesawu sylwadau.

Heb eich help, p'un ai yw hynny'n ganmoliaeth, sylw neu gwyn, ni fedrwn wybod os ydych yn fodlon gyda'r gwasanaeth a gewch gennym.

Felly cymerwch ran a'n helpu i ddarparu gwasanaeth ardderchog, gwerth am arian.

I gael sgwrs anffurfiol am sut y medrwch gymryd rhan, cysylltwch â'ch Cydlynydd Tai neu anfon datganiad o ddiddordeb atom yn defnyddio adran Sylwadau Cyffredinol y wefan hon.

   Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf, Tŷ Canol House, Ffordd Croesawdy, Y Drenewydd, Powys, SY16 1AL

   Rhif Cofrestru'r Cwmni - MS21416R  |  ffon: 0300 111 3030  |  ffacs: 0300 111 3031  |  sms: 07797 885035  |  e-bost: info@mid-walesha.co.uk
  © 2010 Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf. Cedwir pob hawl |  Map y wefan  | Telerau ac Amodau  |  Polisi Cyfrinachedd Gwefan gan Notcon