
Gwneud Cais am Swydd
Gofynnir i chi lenwi'r cais mor llawn ag sydd modd. Mae'n bwysig eich bod yn rhoi cymaint o fanylion ag y gallwch gan y caiff eich cais ei ystyried i ddechrau ar y wybodaeth a roddwch. Bydd y Gymdeithas yn trin unrhyw wybodaeth a roddwch yn hollol gyfrinachol. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol fod y Gymdeithas wedi cofrestru dan Ddeddf Diogelu Data 1984.
Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid datgelu'r holl wybodaeth y gofynnir amdani i gyrff sydd â rheswm da am ofyn am yr wybodaeth - er enghraifft Cyllid y Wlad neu'r Heddlu. Mae gennych hefyd hawl i wirio pa wybodaeth sydd gan y Gymdeithas am eich cais ar gyfrifiadur, a diwygio'r wybodaeth os yn anghywir.
Cysylltwch â'r Gymdeithas os gwelwch yn dda os ydych angen unrhyw gymorth i lenwi'r ffurflen gais.
Cyfrinachedd - Caiff yr holl wybodaeth a roddir ar y ffurflen yma ei thrin yn hollol gyfrinachol.