
Rydym yn is-gwmni i Grŵp Tai Canolbarth Cymru ac mae gennym fwrdd rheoli i oruchwylio gwaith yr Asiantaeth. Rydym yn aelod cyswllt o Care and Repair Cymru.
Helpu Pobl Hŷn ac Anabl i aros Gartref yn Gysurus a Diogel
Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn darparu arbenigedd, cyngor a chymorth ymarferol i bobl hŷn sydd angen gwaith trwsio, adnewyddu neu addasu yn eu cartrefi. Byddwn yn gwneud hyn trwy helpu pobl i ddal i fyw gartref yn annibynnol, cysurus a diogel.
Rydym yn darparu gwasanaeth sy'n rhoi'r pwyslais ar y cleientiaid i bobl 60 oed sy'n berchnogion eu tai neu'n denantiaid sector preifat.
Gallwn:
- Roi cyngor arbenigol ar opsiynau ar gyfer addasu neu drwsio yn eich cartref
- Helpu i ganfod ffynonellau cyllid ar gyfer y gwaith y mae angen ei wneud
- Rhoi cyngor ar fudd-daliadau i edrych ydych chi'n derbyn popeth y mae gennych hawl iddo
- Asesu a chynghori ar ddiogelwch yn y cartref
- Eich helpu i ddarganfod contractwr dibynadwy ar gyfer gwaith adeiladu mwy
- Darparu gwasanaeth technegol i oruchwylio'r gwaith
- Eich diweddaru am hynt y gwaith a gweld ydych chi'n hapus gyda'r gwaith sydd wedi ei wneud
Ewch i wefan Gofal a Thrwsio Powys am ragor o wybodaeth a manylion cyswllt.